Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Astudiaethau Achos

Mae ein casgliad o Astudiaeth Achos arfer gorau yn arddangos yr ystod o waith effeithiol sy’n cael ei wneud ledled Cymru gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ym maes awtistiaeth. Mae pob astudiaeth achos yn cynnwys lleisiau pobl Awtistig a/neu rieni/gofalwyr pobl Awtistig, gan fyfyrio ar sut mae’r cymorth a’r ymyriadau a roddwyd ar waith wedi cael effaith gadarnhaol ar eu bywydau.

Click to filter (7 selected)

Click to filter (12 selected)

Click to filter (11 selected)

Click to filter (6 selected)

Click to filter (15 selected)

Click to filter (10 selected)

Ymateb elusen Hope GB Autism Charity i’r pandemig Covid 19

Ymatebodd elusen Hope GB Autism Charity Torfaen yn greadigol i heriau’r pandemig, drwy ddarparu pecynnau gweithgareddau synhwyraidd i blant a phobl ifanc. Roedd y pecynnau’n cynnwys gêm, offer celf a chrefft a blwch atgofion.

Categories:

  • Gorbryder
  • Iechyd Meddwl
  • Lles

Sut y gall lleoliadau profiad gwaith rymuso pobl awtistig sy’n chwilio am waith

Cefnogodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru ddyn awtistig i fynychu sesiwn hyfforddi grŵp Gogledd Cymru, a arweiniodd at leoliad profiad gwaith yn Poundstretcher, ac o’r herwydd roedd gan y cleient agwedd fwy gobeithiol at ddod o hyd i waith.

Categories:

  • Cyflogaeth
  • Profiad gwaith

Cefnogi unigolyn awtistig ag atal dweud i gael mynediad at ei Feddygfa

Helpodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Powys unigolyn awtistig sydd ag atal dweud i gael mynediad at ei meddyg teulu a threfnu apwyntiadau pan na allai wneud hynny’n hawdd dros y ffôn.

Categories:

  • Cyfathrebu
  • Hyder
  • Iechyd
  • Meddyg Teulu (Meddyg/Meddygfa)

Cefnogi unigolyn awtistig i wella ei hyder a sgiliau cyfathrebu yn y gweithle

Cefnogodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent unigolyn i wella ei hyder a sgiliau cyfathrebu yn y gweithle a chael gafael yn yr addasiadau rhesymol roedd arnynt ei angen yn y gweithle.

Categories:

  • Cyfathrebu
  • Cyflogaeth
  • Gweithle
  • Hyder

Cefnogi gwraig awtistig i ailadeiladu ei pherthynas â’i heglwys leol

Helpodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent wraig awtistig mewn cymuned fechan leol i wella ei pherthynas â’i heglwys leol er mwyn gwella ei lles a’i hiechyd meddwl.

Categories:

  • Cyfathrebu
  • Cymdeithasu
  • Iechyd Meddwl
  • Lles
  • Perthnasoedd

Grŵp Cefnogi Awtistiaeth Un Bywyd, yn gwasanaethu Blaenau Gwent a thu hwnt

Darparodd Grŵp Cefnogi Awtistiaeth Un Bywyd gefnogaeth i neiniau a theidiau sy’n gofalu am blentyn awtistig a symud tŷ.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Neiniau a Theidiau

Ysgol Crefft Ymladd Tang Soo Do ym Mlaenau’r Cymoedd

Mynychodd 4 o blant awtistig sesiynau 1:1 yn Ysgol Crefft Ymladd Blaenau'r Cymoedd a chafwyd adborth gwych gan rieni/gofalwyr. Mae rhai wedi symud ymlaen o sesiynau 1:1 i sesiynau grŵp.

Categories:

  • Chwaraeon/Ffitrwydd
  • Yn y Gymuned

Pwysigrwydd gweithio ar y cyd â gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol

Gweithiodd Therapydd Galwedigaethol ar y cyd gyda Therapydd Galwedigaethol iechyd meddwl amenedigol i gefnogi cleient a oedd wedi cael diagnosis o awtistiaeth yn ddiweddar ac yn 17 wythnos yn feichiog.

Categories:

  • Beichiogrwydd
  • Gorbryder
  • Gwasanaethau arbenigol (e.e. mamolaeth, iechyd rhywiol, dermatoleg ac ati)
  • Iechyd

Cefnogi unigolyn awtistig i gael mynediad at ei wasanaeth Argyfwng lleol

Helpodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg gleient i ddefnyddio’r gwasanaeth Argyfwng gan nad oedd ganddo gefnogaeth teulu ac ni allai deithio’n annibynnol i’w ymgynghoriad.

Categories:

  • Iechyd Meddwl
  • Lles

Defnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol i wella lles unigolyn awtistig

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut gall Therapi Ymddygiad Gwybyddol fod yn ymyrraeth lwyddiannus i wella lles pobl awtistig.

Categories:

  • Gorbryder
  • Iechyd Meddwl
  • Lles

Cefnogi gwasanaethau trydydd sector i wella eu darpariaeth cymorth bwyd a maeth i gleientiaid awtistig.

Darparodd Dietegydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig hyfforddiant i wasanaethau’r trydydd sector yn lleol sydd yn gweithio gyda phobl awtistig a gyda diddordeb mewn gwella eu gwybodaeth am fwyd a maeth i gefnogi’r cleientiaid hyn.

Categories:

  • Deiet a Maeth
  • Lles

Fforwm Caerdydd a’r Fro i oedolion awtistig

Addasodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a’r Fro strwythur eu fforwm misol i annog cymdeithasu a meithrin cyfeillgarwch, gan arwain at ganlyniad llwyddiannus.

Categories:

  • Cymdeithasu
  • Lles
  • Perthnasoedd

Cefnogi rhywun i wella ei hunan-barch a’i les

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos pwysigrwydd cyfathrebu â phawb sy’n rhan o ofal unigolyn i roi ymyriadau ystyrlon yn eu lle a all wella eu hunan-barch a’u lles.

Categories:

  • Lles
  • Self-esteem
  • Trawma

Helpu rhywun â gorbryder cymdeithasol feithrin eu hyder

Drwy ymyriadau dan arweiniad unigolion, cefnogodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae'r Gorllewin wraig awtistig â gorbryder cymdeithasol i ymuno â chwrs ôl-ddiagnosis a chymdeithasu ag oedolion awtistig eraill.

Categories:

  • Cwrs Ôl-Ddiagnostig
  • Cymdeithasu
  • Gorbryder
  • Lles
  • Unigrwydd ac unigedd

Pwysigrwydd hyrwyddo’r pethau positif am fod yn awtistig

Mae’r astudiaeth achos hon yn myfyrio ar bwysigrwydd hyrwyddo’r pethau positif am fod yn awtistig ac mae’n cynnwys cerdd gan wraig awtistig sy’n siarad am ei phrofiad positif o gael ei diagnosis awtistiaeth.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cwrs Ôl-Ddiagnostig
  • Hyder
  • Self-esteem

Tîm Lleoedd Diogel, Adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam

Cynyddodd hyfforddiant Ymwybyddiaeth Awtistiaeth wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth y tîm am awtistiaeth, gan wella eu gallu i gynnal asesiadau ar sefydliadau, gwasanaethau a chwmnïau ar draws Wrecsam i asesu a ydynt yn addas i gael eu defnyddio fel ‘mannau diogel’ i bobl awtistig.

Categories:

  • Yn y Gymuned

Sut y gall ymyriadau ôl-ddiagnosis rymuso pobl awtistig

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos sut gall yr ymyriadau ôl-ddiagnosis cywir rymuso pobl awtistig, ac aeth testun yr astudiaeth hon ymlaen i ddod yn hyfforddwr EPP.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cwrs Ôl-Ddiagnostig
  • Hyder

Gwella sgiliau rheoli amser

Drwy gyfarfodydd dros y we a ‘chwrs rheoli amser a lles’ dros y we, llwyddodd M i wella ei sgiliau rheoli amser yn fawr iawn ac mae bellach yn barod i chwilio am gyflogaeth am dâl.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cefnogaeth Uniongyrchol
  • Cyflogaeth
  • Gorbryder

Cefnogi rhywun i ddeall eu diagnosis yn ystod y pandemig

Mae’r astudiaeth achos hon yn dangos pwysigrwydd technoleg i alluogi’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ddarparu ymyriadau pwysig sy’n helpu oedolion awtistig ddeall eu diagnosis.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cwrs Ôl-Ddiagnostig
  • Lles

Sesiwn galw heibio Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent mewn Canolfan Waith leol

Ar ôl cyfarfod A mewn sesiwn galw heibio yng Nghanolfan Waith Pont-y-pŵl, gweithiodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent gydag ef a’i gyflogwr i wella cyfathrebu rhwng y ddau, gan arwain at welliant yn lles cyffredinol A.

Categories:

  • Cyfathrebu
  • Cyflogaeth
  • Gweithle
  • Perthnasoedd

Cefnogi rhiant i reoli ymddygiad plentyn

Darparodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru gefnogaeth i riant plentyn oedd yn cael problemau’n ymwneud ag ymddygiad, a arweiniodd ar well ymddygiad a llai o straen i’r rhiant a’r plentyn.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cefnogaeth i Riant/Gofalwr
  • Perthnasoedd
  • Perthnasoedd
  • Rhieni/ Gofalwyr

Cefnogi oedolyn i ddeall diagnosis hwyr o awtistiaeth yn well

Darparu cymorth i oedolyn a gafodd ddiagnosis hwyr o awtistiaeth ar ôl gyrfa hir a llwyddiannus yn y Lluoedd Arfog.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cwrs Ôl-Ddiagnostig
  • Cymorth i'r Unigolyn
  • Hyder

Cefnogi rhiant i ddeall diagnosis eu plentyn yn well

Darparu cefnogaeth i riant yn cynnwys strategaethau ac adnoddau i helpu i ddeall diagnosis eu merch a helpu â meysydd eraill.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cefnogaeth i Riant/Gofalwr
  • Perthnasoedd

Cefnogaeth i reoli gorbryder a chael mynediad at gyflogaeth

Archwilio’r cymorth ôl ddiagnosis a gynigiwyd gan Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru i helpu i reoli gorbryder a chael mynediad at gyflogaeth.

Categories:

  • Cyfathrebu
  • Cyflogaeth
  • Cyflogaeth
  • Gorbryder
  • Hyder

Cefnogi nain i reoli ymddygiad ei wyrion

Rhoddodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru gefnogaeth i nain dau fachgen awtistig. Arweiniodd y strategaethau a roddwyd ar waith at les gwell i’r teulu a chanlyniad positif.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cefnogaeth i Riant/Gofalwr
  • Neiniau a Theidiau
  • Perthnasoedd

Cefnogi myfyriwr chweched dosbarth

Darparwyd cefnogaeth i ferch ifanc oedd yn anhapus yn ei dosbarth yn y Chweched. Gyda chymorth y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig cafodd ei symud i goleg anghenion arbennig sy’n anodd iawn cael eich derbyn iddo.

Categories:

  • Addysg
  • Chweched dosbarth
  • Lles

Cefnogi oedolyn Awtistig i gael mynediad at Daliad Annibyniaeth Bersonol

Cefnogodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae'r Gorllewin wraig Awtistig i gael mynediad at Daliad Annibyniaeth Bersonol, gan sicrhau y gallai barhau i fyw bywyd annibynnol.

Categories:

  • Cyfathrebu
  • Cyflogaeth
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol

Sesiynau nofio cyfeillgar i Awtistiaeth gan Halo Leisure

Sicrhaodd Halo Leisure gyllid ICF i’r hyfforddwyr nofio i gael hyfforddiant nofio arbennig drwy Autism Swim Australia.

Categories:

  • Canolfannau Hamdden
  • Chwaraeon/Ffitrwydd
  • Gwersi Nofio
  • Yn y Gymuned

Cefnogi dyn ifanc i dreulio mwy o amser yn y gymuned a meithrin cyfeillgarwch.

Rhoddodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru gefnogaeth i ddyn 25 oed oedd yn ynysu ei hun fwy a mwy heb adael ei dŷ. Arweiniodd y gefnogaeth at fwy o hyder, hunan-barch a chymdeithasu.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cyfeillgarwch
  • Cymdeithasu
  • Hyder
  • Perthnasoedd
  • Self-esteem
  • Unigrwydd ac unigedd

Cefnogi dyn ifanc sy’n ynysig yn gymdeithasol i gymdeithasu â theulu y tu allan i’w dŷ

Cefnogodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru ddyn nad oedd yn gadael ei dŷ, i fynd allan i fwyty am ginio gyda’r nos gyda’i deulu ar Ddydd Calan.

Categories:

  • Cefnogaeth
  • Cymdeithasu
  • Hyder
  • Perthnasoedd
  • Unigrwydd ac unigedd

Effaith bositif grwpiau lles i fyfyrwyr Awtistig ysgol uwchradd

Cynhaliodd Tîm Cymorth Cynnar Sir Benfro beilot grwpiau lles mewn 3 ysgol uwchradd. Mae’r grŵp lles i blant Awtistig neu rai â gwahaniaethau cyfathrebu, a’r rhai nad ydynt yn mynychu’r ysgol, neu mewn perygl o beidio mynychu’r ysgol. Cafodd y grwpiau effaith bositif ar les y plant.

Categories:

  • Addysg
  • Cyfathrebu
  • Cyfeillgarwch
  • Gorbryder
  • Lles
  • Ysgol uwchradd

Cefnogi gwasanaethau cyffuriau ac alcohol i addasu eu harferion ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth awtistig

Gweithiodd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent gyda’r Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol i wella eu dealltwriaeth o awtistiaeth a’u helpu i addasu eu harferion i ddarparu cefnogaeth effeithiol i ddefnyddwyr gwasanaeth awtistig.

Categories:

  • Lles
  • Self-esteem