Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Dysgu seiliedig ar waith

Croeso i adran Dysgu Seiliedig ar Waith y wefan.  Isod fe welwch ragor o wybodaeth am ein datblygiadau diweddaraf sy’n cynnwys dau ffilm hyfforddi ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith a chyfres o ganllawiau ar gyfer darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith a’u dysgwyr.

Am beth mae’r ffilm ‘Beth yw Awtistiaeth?’?

Mae’r ffilm yn dilyn tri unigolyn awtistig – Amara Tamblyn, Rhiannon Lloyd-Williams ac Osian Harries – wrth iddynt archwilio beth mae eu hawtistiaeth yn ei olygu iddynt hwy, gan gynnwys: cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion; profiad synhwyraidd; a sut i wella pethau.

Mae’r ffilm yn cynnwys llais proffesiynol y Seicolegydd ymgynghorol, Dr Elin Walker Jones hefyd.

Mae dwy elfen i’r cynllun hwn: gwylio ein ffilm hyfforddi “Beth yw Awtistiaeth?”; a chyrchu’r adnoddau e-ddysgu, lle gallwch chi lawrlwytho’r PowerPoint neu PDF:  AwtistiaethCymru.org/beth-yw-awtistiaeth/

Ar gyfer pwy mae’r ffilm hyfforddi “Dysgu Seiliedig ar Waith”?

Dyluniwyd y ffilm i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth a sut mae’n berthnasol i Dysgu Seiliedig ar Waith. Mae’n darparu gwybodaeth a rhywfaint o arfer da wrth i ni ddilyn taith dau ddysgwr wrth gwblhau eu lleoliad dysgu seiliedig ar waith.

Cliciwch ar y ddelwedd isod i wylio’r ffilm hyfforddi.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Cliciwch y botwm isod i weld y lawrlwythiadau sydd ar gael ar y dudalen we hon.

Canllawiau Dysgu Seiliedig ar Waith

Mae dau ganllaw a gafodd eu cyd-gynhyrchu gydag Arweinwyr Awtistiaeth ledled Cymru, Ffederasiwn Hyfforddi Cenedlaethol Cymru, ACT Training a pobl awtistig. Dyluniwyd y canllawiau newydd i helpu darparwyr hyfforddiant yn y gwaith i gefnogi pobl awtistig. Mae’r llall wedi ei anelu at ddysgwyr awtistig i’w cynorthwyo i gwblhau eu taith dysgu seiliedig ar waith yn llwyddiannus.

Mae’r pecyn adnoddau’n ffurfio rhan o’r cynllun Gweithio gydag Awtistiaeth. Mae’r pecyn yn cynnwys cyngor, gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol i ddarparwyr hyfforddiant i’w helpu i greu amgylchedd sy’n gyfeillgar i awtistiaeth i ddysgwyr yn y gweithle, yn amrywio o ystyriaethau synhwyraidd a chyfathrebu, i reoli tasgau a chefnogi dysgwyr gyda’u gwaith.

Mae’r pecyn dysgwr yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar sut i ddewis y lleoliad dysgu seiliedig ar waith cywir. Yna unwaith ar leoliad mae yna daflenni cyngor ar sut i drefnu eu llwyth gwaith a’u hamser, sut i reoli cyfnodau heb strwythur a ble i gael y cyngor a’r help sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r ddau canllaw yn dilyn taith y dysgwr trwy’r broses dysgu seiliedig ar waith.

Cliciwch ar y botwm i weld a lawrlwytho’r canllawiau unigol neu cliciwch y dolenni isod i weld y penodau unigol ar gyfer pob canllaw a allai fod yn berthnasol i chi.

Lawrlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Ddarparwyr Hyfforddiant Seiliedig ar Waith
Pob pennod:
Pennod 1: Beth yw awtistiaeth?
Pennod 2: Pontio
Pennod 3: Creu Amgylchedd Dysgu neu Amgylchedd sy'n Gyfeillgar i Awtistiaeth
Pennod 4: Cefnogi'r Dysgwr yn yr Amgylchedd Dysgu neu Waith
Awtistiaeth: Canllaw ar gyfer Cyfranogwyr Dysgu Seiliedig ar Waith
Pob pennod:
Pennod 1: Cychwyn Eich Rhaglen Ddysgu
Pennod 2: Yn ystod Eich Rhaglen Ddysgu
Pennod 3: Ar ôl Hyfforddiant
Awtistiaeth: Hawdd ei Ddeall Canllaw ar gyfer Cyfranogwyr Dysgu Seiliedig ar Waith