Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gwasanaethau Niwroddatblygiadol

Nodwyd gwasanaethau niwroddatblyiadol plant fel maes rhaglen yn y rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy, y gwasanaeth gwella ansawdd cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nod y rhaglen 1000 o Fywydau a Mwy yw cefnogi’r GIG i wella canlyniadau gofal iechyd i gleifion a darparu gofal iechyd diogel o ansawdd uchel i bobl yng Nghymru.

 

Llwybr asesu a diagnosis Niwroddatblygiadol ar gyfer Cymru gyfan

Mae’r llwybr asesu a diagnosis Niwroddatblygiadol ar gyfer Cymru gyfan wedi’i greu gyda’r grŵp llywio cenedlaethol niwroddatblygiadol, teuluoedd, sefydliadau statudol a thrydydd sector. Mae’r safonau’n canolbwyntio ar y canlynol:

  • lleihau’r amser o atgyfeirio’r cleient i asesiad diagnostig,
  • asesiad sy’n canolbwyntio ar y plentyn.
  • trafodaeth brydlon ac amlddisgyblaethol i’r rheiny sydd ynghlwm â’r asesiad,
  • gwella cyfathrebu ac
  • adborth o’r canlyniad, gyda chyfarfod dilynol â’r teulu – a’r plentyn lle bo hynny’n briodol – i gefnogi darpariaeth y cynllun gweithredu.

 

  • Safon 1: Mae pwynt cyswllt unigol ar gyfer asesiadau diagnostig pob anhwylder niwroddatblygiadol.
  • Safon 2: Gwneir y penderfyniad ynghylch a dderbynnir atgyfeiriad ai peidio ar sail ansawdd y wybodaeth a ddarparwyd (fel yr amlinellir yng nghanllawiau NICE). Os bydd digon o wybodaeth i gefnogi’r pryderon, ni ddylai mynediad fod yn amodol ar atgyfeirwyr cymeradwy, defnyddio holiaduron sgrinio neu fanylebau eraill.
  • Safon 3: Pan na dderbynnir atgyfeiriadau, rhoddir y rheswm am hyn i’r atgyfeiriwr, ynghyd â chyngor ar sut i wella’r atgyfeiriad.
  • Safon 4: Mae asesiadau’n cael eu cynllunio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei chasglu i allu creu proffil o anghenion y plentyn (fel yr amlinellir yn arweiniad NICE), a sicrhau dull darbodus, hyblyg o ddefnyddio adnoddau.
  • Safon 5: Ceir trafodaeth amlddisgyblaethol amserol gyda phawb sydd ynghlwm â’r broses asesu, sy’n arwain at benderfyniad am ganlyniad yr asesiad, proffil o gryfderau ac anawsterau’r plentyn a chytuno ar y dyfodol. Gellir pennu sut gweithredir y broses hon yn lleol.
  • Safon 6: Bydd gweithiwr proffesiynol sydd wedi bod ynghlwm â’r broses asesu yn rhoi gwybod i’r teulu (a’r plentyn, os yw hynny’n briodol) beth yw canlyniad yr asesiad. Yna mae’n cael ei gyfleu’n ysgrifenedig ac, os rhoddir cydsyniad i wneud hynny, dylid ei rannu â’r gweithwyr proffesiynol sy’n cynorthwyo’r plentyn. Ar gyfer plant sydd wedi cael diagnosis, dylid rhoi cyngor ar y ffordd orau o fodloni anghenion y plentyn.
  • Safon 7: Ar ôl asesu, dylid trafod y camau nesaf gyda’r teulu, ac, os yw’n briodol, gyda’r plentyn.
  • Safon 8: Dylai’r ymyriadau a argymhellir ac a gynigir gan wasanaethau niwroddatblygiadol fod yn seiliedig ar y ddisgyblaeth orau.

 

Mesurau canlyniadau cytunedig

Mae mesurau canlyniadau ar gyfer y gwasanaeth niwroddatblygiadol wedi’u datblygu a’u cytuno, fe’u darperir gan y Tîm 100 o Fywydau a Mwy, gan ganolbwyntio ar:

  • cydymffurfiad â’r safonau
  • profiad y plentyn neu unigolyn ifanc a’u teulu o’r asesiad a’r diagnosis.

 

Cymuned Ymarfer Niwroddatblygiadol

Yn ogystal â hynny, mae Cymuned Ymarfer, a drefnir gan y Tîm 1000 o Fywydau a Mwy, sy’n darparu mynediad i glinigwyr at waith ymchwil a gwybodaeth gyfredol.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Lawrlwythiadau

Law yn llaw at blant a phobl ifanc - Lles Fi - Cylchlythyr Hydref 2020
Llwybr Asesu Diagnostig Niwroddatblygiad (ar gael yn y Saesneg)
Rhestr Trosolwg a Rhestr Gyswllt Gwasanaeth Niwroddatblygiadol