Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cynllun staff cymorth addysgu a dysgu ysgolion uwchradd

Mae ein ffilm hyfforddi yn dangos rhai o’r sialensiau sy’n wynebu pobl ifanc ag ASA yn ystod diwrnod ysgol arferol. Bwriad y ffilm yw ysgogi trafodaeth a gellir cael saib wrth ei gwylio fel y gellir hwyluso hyn. Edrychwch ar y ffilm yma:

Ysgolion Cymru i gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer eu hysgol unigol cyn ymgymryd â’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth. Bydd creu’r cyfrifon defnyddwyr unigryw yn helpu ysgolion i fonitro eu cynnydd, a bydd hefyd yn arbed amser gan na fydd angen i unigolion greu eu cyfrifon defnyddwyr eu hunain i gwblhau’r cynlluniau ardystiedig.

Gellir cael mynediad at y cynllun tystysgrif athrawon ar-lein isod: