Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Beth yw awtistiaeth?

Yma o fewn y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, rydym yn credu, os yr hoffech wybod sut beth yw bod yn awtistig, dylech ofyn i berson awtistig.

Dyna’r rheswm dros greu’r ffilm hwn, ar y cyd gyda phobl awtistig, wrth i ni ymgeisio i ymateb i lais pob awtistig yng Nghymru, eu teuluoedd/gofalwyr, ynghyd â gweithwyr proffesiynol.

Ar gyfer pwy mae’r ffilm?

Dyluniwyd y ffilm i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi gweithio i gadw eu hadnoddau a’u hiaith yn ddiweddar ac yn gyfredol er mwyn adlewyrchu beth y dymuna pobl awtistig i bobl sy’n gyffredin yn niwrolegol ddeall am awtistiaeth, ac mae diweddaru’r cynllun hwn yn un enghraifft o hyn.

Am beth mae’r ffilm yn sôn?

Mae’r ffilm yn dilyn tri unigolyn awtistig – Amara Tamblyn, Rhiannon Lloyd-Williams ac Osian Harries – wrth iddynt archwilio beth mae eu hawtistiaeth yn ei olygu iddynt hwy, gan gynnwys: cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion; profiad synhwyraidd; a sut i wella pethau.

Mae’r ffilm yn cynnwys llais proffesiynol y Seicolegydd ymgynghorol, Dr Elin Walker Jones hefyd.