Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Fy nghysylltiadau lleol

Mae gan bob Awdurdod Lleol Arweinydd Awtistiaeth lleol ac mae gan bob Bwrdd Iechyd Wasanaeth Awtistiaeth Integredig. Mae’r rhain yn gyswllt allweddol ar gyfer gwybodaeth, cyngor ac arweiniad awtistiaeth yn eich ardal chi.

Mae dolen hefyd ar gyfer pob awdurdod sy’n chwilio am wasanaethau perthnasol trwy Dewis Cymru.

Defnyddiwch yr hidlwyr neu’r map rhyngweithiol i ddod o hyd i fanylion cysylltiadau yn eich ardal chi.