Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae dau fersiwn o’n Archarwyr Awtistiaeth

Comig Archarwyr Awtistiaeth

Y cyntaf yw fersiwn comig antur a’i nod yw codi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ymysg disgyblion Cyfnod Allweddol 2, brodyr a chwiorydd a chyfoedion. 

Comig PDF

Fideo comig rhyngweithiol

Mae’r fersiwn PowerPoint rhyngweithiol yn gweithio fel sioe sleidiau lle rydych chi’n pwyso ‘Enter’ i symud trwy bob dilyniant. Noder fod maint y ffeil tua 140 Mb.

Fideo Comic adroddedig

Llyfr Stori Archarwyr Awtistiaeth

Yr ail yw fersiwn llyfr stori ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 1, brodyr a chwiorydd a chyfoedion.

Llyfr stori PDF

Fideo llyfr stori rhyngweithiol

Mae’r fersiwn PowerPoint rhyngweithiol yn gweithio fel sioe sleidiau lle rydych chi’n pwyso ‘Enter’ i symud trwy bob dilyniant. Noder fod maint y ffeil tua 140 Mb.

Fideo Llyfr Stori adroddedig

Wyt ti am fod yn archarwr awtistiaeth?

Cer ati i gael tystysgrif a dod yn Archarwr Awtistiaeth trwy gwblhau ein haddewid ar-lein.

Ysgolion Cymru i gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer eu hysgol unigol cyn ymgymryd â’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth. Bydd creu’r cyfrifon defnyddwyr unigryw yn helpu ysgolion i fonitro eu cynnydd, a bydd hefyd yn arbed amser gan na fydd angen i unigolion greu eu cyfrifon defnyddwyr eu hunain i gwblhau’r cynlluniau ardystiedig.

Hoffech chi fod yn archarwr awtistiaeth?

Ewch ati i gael eich tystysgrif a dod yn Archarwr Awtistiaeth trwy gyflwyno eich addewid ar-lein yma