Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Dyma ffilm sy’n dangos rhai o’r anawsterau y bydd plant a chanddynt anhwylderau yn eu hwynebu yn ystod oriau’r ysgol.  Diben y ffilm yw codi ymwybyddiaeth a sbarduno trafodaeth am yr hyn mae modd ei wneud i wella eu sefyllfa a’u cyrhaeddiad.

HOLIADUR STAFF DYSGU

Ysgolion Cymru i gysylltu â’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol i ofyn am enw defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer eu hysgol unigol cyn ymgymryd â’r rhaglen Dysgu am Awtistiaeth. Bydd creu’r cyfrifon defnyddwyr unigryw yn helpu ysgolion i fonitro eu cynnydd, a bydd hefyd yn arbed amser gan na fydd angen i unigolion greu eu cyfrifon defnyddwyr eu hunain i gwblhau’r cynlluniau ardystiedig.

Rhowch y manylion canlynol cyn cwblhau’r holiadur:

Mae HAS-ELTE ‘Autism in Education Research Group’ (MASZK) wedi cynhyrchu cyfieithiad Hwngari o’r fideo hwn.

Cliciwch isod i weld y fersiwn hon wedi’i chyfieithu.