Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Addysg bellach

Croeso i Addysg Bellach (AB) y wefan.  Isod fe welwch ragor o wybodaeth am ein datblygiadau diweddaraf sy’n cynnwys ffilm hyfforddi ar gyfer colegau AB a chyfres o ganllawiau ar gyfer colegau AB a’u myfyrwyr.

Am beth mae’r ffilm ‘Beth yw Awtistiaeth?’?

Mae’r ffilm yn dilyn tri unigolyn awtistig – Amara Tamblyn, Rhiannon Lloyd-Williams ac Osian Harries – wrth iddynt archwilio beth mae eu hawtistiaeth yn ei olygu iddynt hwy, gan gynnwys: cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion; profiad synhwyraidd; a sut i wella pethau.

Mae’r ffilm yn cynnwys llais proffesiynol y Seicolegydd ymgynghorol, Dr Elin Walker Jones hefyd.

Mae dwy elfen i’r cynllun hwn: gwylio ein ffilm hyfforddi “Beth yw Awtistiaeth?”; a chyrchu’r adnoddau e-ddysgu, lle gallwch chi lawrlwytho’r PowerPoint neu PDF:  AwtistiaethCymru.org/beth-yw-awtistiaeth/

Ar gyfer pwy mae’r ffilm hyfforddi “Addysg Bellach​”?

Dyluniwyd y ffilm i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth i staff mewn lleoliad AB. Mae’n darparu gwybodaeth a rhywfaint o arfer da wrth i ni ddilyn taith myfyrwyr tra yn y coleg.

Cliciwch ar y ddelwedd isod i wylio’r ffilm hyfforddi.

Canllawiau Addysg Bellach​

Mae dau ganllaw a gafodd eu cyd-gynhyrchu gydag Arweinwyr Awtistiaeth ledled Cymru, myfyrwyr awtistig a sawl coleg ledled Cymru. Mae un canllaw newydd wedi’i gynllunio i helpu colegau Addysg Bellach i gefnogi pobl awtistig. Mae’r llall wedi’i anelu at y myfyrwyr awtistig i’w cynorthwyo i gwblhau eu taith ddysgu coleg yn llwyddiannus.
Mae’r pecyn adnoddau yn rhan o’r cynllun Dysgu gydag Awtistiaeth. Mae’r pecyn yn cynnwys cyngor, gwybodaeth ac awgrymiadau defnyddiol i golegau i helpu i greu amgylcheddau sy’n gyfeillgar i awtistiaeth i fyfyrwyr, yn amrywio o ystyriaethau synhwyraidd a chyfathrebu, i reoli tasgau a chefnogi dysgwyr gyda’u gwaith.

Mae’r pecyn myfyrwyr yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar sut i ddewis y cwrs coleg cywir. Yna unwaith ar leoliad mae yna daflenni cyngor ar sut i drefnu eu gwaith a’u hamser, sut i reoli cyfnodau heb strwythur a ble i gael y cyngor a’r help sydd eu hangen arnyn nhw. Mae’r ddau ganllaw yn dilyn taith y myfyriwr trwy’r profiad AB.

Cliciwch ar y botwm i weld a lawrlwytho’r canllawiau unigol neu cliciwch y dolenni isod i weld y penodau unigol ar gyfer pob canllaw a allai fod yn berthnasol i chi.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Cliciwch y botwm isod i weld y lawrlwythiadau sydd ar gael ar y dudalen we hon. 

Lawrlwythiadau

Awtistiaeth: Canllaw i Sefydliadau Addysg Bellach
Pob pennod:
Pennod 1: Beth yw awtistiaeth?
Pennod 2: Pontio
Pennod 3: Creu Coleg sy'n Gyfeillgar i Awtistiaeth
Pennod 4: Cefnogi'r Myfyriwr yn yr Amgylchedd Dysgu
Awtistiaeth: Canllaw i Fyfrywyr Addysg Bellach

Pob pennod:
Pennod 1: Cychwyn Coleg
Pennod 2: Yn ystod y Coleg
Pennod 3: Ar ôl Coleg
Pennod 4: Adnoddau Eraill