Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Offeryn chwilio am waith

Mae’r pecyn hwn yn rhoi dull strwythuredig i chi chwilio am waith a gwneud cais. Ar ôl rhoi’ch gwybodaeth a’ch dewisiadau chi bydd gennych chi’r opsiwn o lawrlwytho rhestri o’ch meini prawf hanfodol a’ch dewisiadau o ran swydd, eich sgiliau a gwybodaeth a’ch profiad sy’n gallu cael eu defnyddio wedyn i’ch helpu wrth chwilio am swyddi a gwneud cais. Mae’r pecyn hwn yn rhyngweithio gyda’r pecyn llunio CV, sy’n golygu y bydd unrhyw wybodaeth sy’n cael ei chofnodi yn cael ei defnyddio i boblogi’ch CV hefyd.

O fewn y pecyn yma, fe welwch wybodaeth ddefnyddiol hefyd am bob agwedd ar chwilio am swydd.

(bydd angen creu cyfrif i ddefnyddio’r pecyn yma)