Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig

Mae yna 7 Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ledled Cymru. Maent yn cynrychioli partneriaeth rhwng y Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Fe’u datblygwyd ar ôl ymgynghoriad eang gyda phobl awtistig, rhieni/ gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau. Amlygodd yr ymgynghoriad ddiffyg mynediad at asesiad a chefnogaeth briodol i bobl awtistig a fethodd â chyrraedd y meini prawf ar gyfer llawer o wasanaethau. Rhai o’r materion allweddol a nodwyd oedd:

  • Problemau emosiynol fel pryder a dicter
  • Datblygu sgiliau cymdeithasol a byw dyddiol
  • Cael mynediad at weithgareddau hamdden
  • Cael mynediad at asesiadau diagnostig i oedolion
  • Ymdopi ag ymddygiadau niweidiol neu drallodus

Beth mae’r gwasanaethau yn ei ddarparu?

Bydd y gwasanaethau yn darparu asesiad diagnostig o awtistiaeth i oedolion (weithiau ar y cyd gyda gwasanaethau eraill), cefnogaeth a chyngor i oedolion awtistig, rhieni/ gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol.

 

Rydw i’n rhiant/ gofalwr i blentyn awtistig – beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Er nad ydyn nhw’n gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc, mae’r gwasanaethau yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill i gefnogi rhieni/ gofalwyr.

 

Gall rhieni/ gofalwyr hunan gyfeirio at y gwasanaeth, os yw’ch plentyn wedi cael diagnosis o awtistiaeth byddwch yn gallu cael mynediad at rywfaint o hyfforddiant a chyngor oddi wrth y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.

 

Rwyf yn oedolyn awtistig – beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Os ydych chi’n oedolyn ac yn credu eich bod yn awtistig, ond heb ddiagnosis, bydd y gwasanaethau yn gallu cynnig asesiad diagnostig. Os ydych yn awtistig, gallwch gael cyngor a chefnogaeth gan y gwasanaethau heb orfod cael eich cyfeirio gan rywun arall. Isod mae rhai o’r pethau efallai y byddwch angen cyngor a chymorth gyda nhw:

  • Pryder
  • Sgiliau cymdeithasol
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden
  • Datblygu eich sgiliau byw dyddiol (megis talu biliau, siopa a choginio)
  • Cael mynediad at wasanaethau eraill megis gofal iechyd neu gefnogaeth i gael gwaith
  • Neu anawsterau eraill y gallwch fod yn eu dioddef

A yw’r gwasanaethau yn darparu popeth i ni?

Na, ni fydd y gwasanaethau yn darparu:

  • Gwaith uniongyrchol gyda plant a phobl ifanc
  • Gwaith ymyrraeth brys/ mewn argyfwng
  • Gofal seibiant
  • Ymateb cyflym

Ar gyfer y rheini sydd ag anghenion mwy cymhleth (lle mae angen gwasanaethau eraill megis cymorth iechyd meddwl), mae staff o’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn gweithio gyda phobl broffesiynol eraill i sicrhau eu bod yn gallu cynnig cefnogaeth ‘awtistiaeth gyfeillgar’.

 

Rwy’n weithiwr proffesiynol – beth mae hyn yn ei olygu i mi?

Mae’r Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yno i gefnogi gweithwyr proffesiynol i ennill gwybodaeth, sgiliau a phrofiad o weithio gyda phobl awtistig.

Sut maen nhw’n gwneud hyn?

  • Hyfforddiant
  • Ymgynghori
  • Cyngor
  • Gallai hyn hefyd olygu cydweithio mewn rhai achosion

Fedra i gael mynediad at adnoddau eraill?

Medrwch. Gallwch lawrlwytho’r holl adnoddau oddi ar ein gwefan am ddim. Os ydych angen unrhyw gymorth neu gyngor gallwch gysylltu â ni yn AutismWales@WLGA.gov.uk

Sut y gallaf gael gwybod mwy am y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig yn fy ardal i?

Mae rhai gwasanaethau yn fwy sefydledig nag eraill, gan y cafodd y Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig eu cyflwyno’n raddol drwy Gymru. Cliciwch ar y dolenni isod i gael gwybodaeth am y gwasanaeth yn eich ardal:

Lawrlwythiadau

Canllaw Cefnogi'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig



Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer ASA - Adroddiad Interim

Gwerthusiad o'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig a'r Diweddariad o'r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer ASA - Adroddiad Terfynol