Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yn dilyn cyngor gan GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi gwneud newidiadau dros dro i’r gwasanaeth.

Mae pob grŵp, apwyntiad galw heibio ac apwyntiadau wyneb i wyneb wedi’u canslo hyd nes y clywir yn wahanol.

Os oes gennych apwyntiad diagnostig eisoes gyda ni byddwn yn eich ffonio i gasglu gwybodaeth ychwanegol ac yn eich gwahodd i mewn am apwyntiad pellach unwaith y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Byddwn yn parhau i ymateb i alwadau ffôn a negeseuon e-bost rhwng 9.00am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau; 9.00am i 4pm dydd Gwener. Rydym yn gallu darparu gwasanaeth cymorth cyfyngedig naill ai yn rhithiol neu dros y ffôn / testun neu e-bost, er y bydd hyn ar sail blaenoriaeth.

I gysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ffoniwch 01633 644143 neu e-bostiwch asdservice.abb@wales.nhs.uk

Wrth symud ymlaen bydd ein gallu i ddarparu gwasanaeth yn newid yn unol â chanllawiau’r llywodraeth a lleol felly byddwn yn postio diweddariadau ar ein tudalen Facebook a’n gwefan.

bipab.gig.cymru/ysbytai/gwasanaethau-ysbyty-ay/gwasanaeth-awtistiaeth/

Dadlwythiadau

Gwent IAS - Virtual Autism Advice Sessions Poster