Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi ymrwymo i sicrhau y gall pob defnyddiwr ddefnyddio’r wefan hon, a hynny ar amrywiol ddyfeisiau, a byddwn yn dal ati i weithio â budd-ddeiliaid i sicrhau y bydd hyn yn parhau.

Mae AwtistiaethCymru.org wedi’i ddylunio a’i ddatblygu i gydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG – Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1), ac rydym yn ceisio cydymffurfio ag AA pan fo hynny’n bosib.

Os byddwch chi’n cael unrhyw drafferthion defnyddio’r wefan hon, neu os hoffech chi wneud unrhyw sylwadau, cysylltwch â ni yn AwtistiaethCymru@WLGA.GOV.UK.

Iaith

Gall defnyddwyr ddewis eu hiaith drwy glicio ar Cymraeg / English yng nghornel chwith uchaf y sgrin.

Rydym yn gweithredu rhaglen dreigl o gyfieithu’r wefan er mwyn sicrhau ei bod ar gael i siaradwyr Cymraeg a Saesneg. Os nad yw tudalen wedi’i chyfieithu eto, bydd yn ymddangos yn y Saesneg i gychwyn, nes bydd y fersiwn Gymraeg ar gael.

Sylwch fod rhai dogfennau allanol/gan drydydd parti yn cael eu rhannu ar y wefan, a gallai’r rhain fod ar gael mewn Cymraeg neu Saesneg yn unig. Fodd bynnag, byddwn yn rhannu fersiynau dwyieithog o ddogfennau allanol pan fo hynny’n bosib.

Addasu maint y testun

Gall defnyddwyr addasu maint y testun drwy ddefnyddio’r addaswr testun ar-sgrin ar frig y dudalen, ‘Maint y Testun A A A’.  Mae hyn yn gadael i’r defnyddiwr ddewis a hoffent weld y testun ar bob tudalen mewn maint bach, canolig neu fawr.

Gall defnyddwyr hefyd addasu maint y testun ar y wefan drwy addasu’r dewis hwn o fewn gosodiadau eu porwr.

Cymorth gweledol

Gall defnyddwyr addasu’r lliwiau a ddangosir ar y sgrin drwy ddewis o amrywiaeth o ddewisiadau hidlo lliw, sydd ar gael o gwymplen ar frig y dudalen drwy glicio ar y testun ‘Lliw’. Mae’r dewisiadau hidlo lliw sydd ar gael yn cynnwys:

Isdeitlau Fideo

Gall defnyddwyr weld isdeitlau drwy glicio’r botwm ‘CC’ yn y ddolen Vimeo gynwysedig, ac yna dewis ‘Cymraeg’ neu ‘English’, yn dibynnu ym mha iaith y maen nhw’n gwylio’r ffilm.

Bu i ni gychwyn ar ein rhaglen dreigl o ychwanegu isdeitlau i’r fideos ar draws ein gwefan ym mis Chwefror 2019.

Adobe – Darllen yn Uchel

Mae’r swyddogaeth “darllen yn uchel” wedi’i fewnosod yn y fersiynau mwyaf newydd o Adobe Reader (fersiwn 7 ac uwch).

Gallwch ddefnyddio “darllen yn uchel” gyda dogfennau Fformat Dogfen Gludadwy (PDF) drwy ddilyn tri cham byr:

Dyma rai llwybrau byr a ddefnyddir yn aml:

Cliciwch ar y dogfennau isod i gael gwybod sut yr aethom ati i ymgysylltu â budd-ddeiliaid, a arweiniodd at well hygyrchedd y wefan, a’r Datganiad Hygyrchedd Technegol ar gyfer gwefannau Llywodraeth Cymru, a ddefnyddiwyd fel fframwaith ar gyfer y gwaith hwn.

Gwybodaeth Hygyrchedd ar gyfer e >

Datganiad Hygyrchedd Awtistiaeth Cymru >