Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Diben y pecyn hwn yw helpu clinigwyr a’r rhai sy’n atgyfeirio cleifion i adnabod, atgyfeirio ac asesu plant a phobl ifanc sy’n amlygu nodweddion anhwylderau’r sbectrwm awtistaidd fel y bydd modd pennu diagnosis.  Mae’r adnoddau wedi’u llunio i wella arferion clinigol, nid i gymryd lle hyfforddiant clinigol.

Rydyn ni wedi didoli’r cynnwys yn ôl pump dosbarth.  Gwasgwch y botwm priodol i agor pob rhan: