Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Dolenni defnyddiol

.

https://allwalespeople1st.co.uk

Mae Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan eisiau sicrhau bod pobl gydag anableddau dysgu yng Nghymru yn gallu cael mynediad at gymorth hunan-eiriolaeth, fel y gallent leisio eu dewis a rheolaeth. Maent eisiau hyrwyddo gwerthoedd hunan-eiriolaeth fel gwasanaeth ataliol, a symud i ffwrdd o ddibyniaeth ar wasanaethau sy’n tanseilio byw’n annibynnol.

https://www.anxietyuk.org.uk

Cyrsiau a grwpiau Anxiety UK. Gydag Anxiety UK, nid ydych ar eich pen eich hun. Maent yno i’ch cynorthwyo ond mae ganddynt hefyd ystod eang o adnoddau a phecynnau gwaith hunan-gymorth ar gael i chi, gan gynnwys llyfrau, canllawiau hunan-gymorth a deunyddiau eraill. Bydd y rhain yn eich galluogi i reoli eich adferiad a rheoli eich pryder yn fwy effeithiol.

Mae symud i’r ysgol uwchradd yn ddigwyddiad o bwys ym mywyd pob person ifanc. Mae ysgol newydd yn golygu cynefin newydd, mwy o faint fel arfer, ac ynddo ofynion mwy cymhleth, ac yn drac sain i’r cyfan mae nifer fawr o seiniau anghyfarwydd a dryslyd, o bosib.

Yn achos person ifanc ag awtistiaeth, gall y newid hwn fod yn arbennig o heriol. Gall cefnogaeth wrth baratoi at y newid hwyluso’r broses a gwella’r profiad.

Bydd Taith Dywys Sain Awtistiaeth yn helpu pobl ifanc ag awtistiaeth yn ystod y cyfnod hwn o newid i’r ysgol uwchradd drwy eu galluogi i gyfarwyddo â’r seiniau newydd y gallant ddisgwyl eu clywed, a hynny cyn iddynt gyrraedd y lleoliad newydd.

Cafodd y map hwn ei gynllunio i’ch helpu chi i gyfarwyddo â’r gwahanol seiniau byddwch chi’n eu clywed yn yr ysgol. Cliciwch ar y smotiau coch ar y map i glywed y seiniau sy’n berthnasol i’r rhan honno o’r ysgol. Defnyddiwch glustffonau i gael yr argraff fwyaf eglur o’r profiad o fod yn y mannau rheiny.

Gall cynhalwyr ac athrawon ddefnyddio’r map sain yn ogystal â’r bobl ifanc eu hunain. Gellir ei chwarae mor aml ag sydd ei angen, a gall osod seiliau cadarn ar gyfer ymgynefino, paratoi a thrafod.

Yr Athro Alka Ahuja, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB)

Alka.ahuja@wales.nhs.uk

http://autismwellbeing.org.uk

Mae Autism Wellbeing yn gweithio mewn partneriaeth ag unigolion a’u teuluoedd i fagu perthnasau mwy dwys, lleihau trallod a chynyddu lles. Maent yn cydnabod, yn yr un modd ag y mae pob unigolyn awtistig yn unigryw, mae eu teuluoedd hefyd yn unigryw a’r perthnasau sydd ganddynt gyda’r bobl sydd o’u hamgylch. Mae Autism Wellbeing yn defnyddio Cyfathrebu Ymatebol fel dull syml ac effeithiol i unigolion awtistig wneud cysylltiadau gyda’r bobl sy’n eu caru ac yn gofalu amdanynt.

https://gov.wales/better-books-prescribing-self-help-books-children

Mae’r cynllun hwn yn cynnig llyfrau hunangymorth i blant a phobl ifanc i’w helpu i ddygymod â materion emosiynol a rhoi cyfarwyddyd ychwanegol.

Mae ymchwil yn dangos effeithiolrwydd llyfrau hunangymorth o ansawdd uchel.

Efallai y bydd plant a phobl ifanc yn arbennig yn ei chael yn anodd i drafod eu teimladau. Gall darllen llyfr eu helpu i ddeall eu teimladau a rhoi cyngor iddynt am sut i ymdopi. Mae llyfrau ar gael hefyd i helpu rhieni a gwarcheidwaid.

Gall meddygon teulu, cynghorwyr ysgol, athrawon, staff canolfan ieuenctid a phob eraill y mae pobl ifanc yn troi atynt am gyngor/cyfarwyddyd argymell y llyfrau hyn.

Mae llyfrau ar gael mewn llyfrgelloedd lleol i’w benthyg am ddim.

www.pecf.cymru/

Gall cynghorwyr y llinell gymorth ddarparu gwybodaeth a chyngor ar eiriolaeth, rhoi cyngor ar hawl i eiriolaeth wedi’i selio ar anghenion gofal a chefnogaeth, ac yn gallu cyfeirio at wasanaethau eiriolaeth berthnasol a gwasanaethau arbenigol eraill. Mae taflen sy’n rhoi rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth ar gael hefyd.

Mae’r gwasanaeth yn agored Llun i Gwener 9yb-5yh.

https://carers.org/around-the-uk-our-work-in-wales/our-work-in-wales-welsh

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn ceisio siapio dyfodol gwell gyda, ac ar gyfer gofalwyr yng Nghymru drwy godi ymwybyddiaeth, grymuso gofalwyr a dylanwadu newid. Maent yn gweithio’n agos ac yn gydweithredol gyda’u Partneriaid Rhwydwaith – elusennau annibynnol lleol a rhanbarthol sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ymarferol i ofalwyr di-dâl yng Nghymru.

Mae Gofalwyr Cymru eisiau cymdeithas sy’n parchu, yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi gofalwyr.

Hwb Lles – Carers UK

Mae amrywiaeth o gynnwys i gefnogi lles gofalwyr, gan gynnwys y fideos lles newydd a dolenni i wybodaeth a chyngor.

Listening Support Service – Carers UK

 

https://www.complantcymru.org.uk/

Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru.  Sally Holland yw’r Comisiynydd Plant presennol.

https://chineseautism.org.uk/parent-carer/

Mae’r dudalen rhieni-gofalwyr ar gyfer Chinese Autism yn cynnwys canllawiau i helpu rhieni i ddeall ymddygiad eu plant ar bynciau fel ysgogi, cysgu, gwneud ffrindiau, chwarae, a mwy. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am bwy i gysylltu â nhw am gymorth.

https://www.hottubhideaways.com/cold-water-swimming-uk/

Mae nofio dŵr oer yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y DU, gyda llawer o bobl yn dewis croesawu’r her o gael gostyngiad mewn tymheredd oer.

O byllau awyr agored a llynnoedd gwyllt i lagynau cysgodol a darnau o afonydd, mae’r canllaw hwn i ddechreuwyr yn amlinellu lle gallwch chi fynd i nofio dŵr oer mewn gwahanol rannau o’r DU, a sut i arfogi eich hun fel bod eich profiad yn ddiogel yn ogystal â phleserus.

https://www.colleges.wales

Rydym yn elusen addysgol sy’n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru. Maent yn credu fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o’r radd flaenaf, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy’n cefnogi’r gymuned ehangach, cyflogwyr a’r economi.

https://www.contact.org.uk

Yn cynnig cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd i deuluoedd plant anabl.

https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-work-pensions.cy

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant.

www.disabilitywales.org

Anabledd Cymru yw cymdeithas genedlaethol sefydliadau pobl anabl yng Nghymru sy’n ceisio cyflawni hawliau a chydraddoldeb i holl bobl anabl.

www.ldw.org.uk/cy/hawdd-ei-ddeall-cymru/

Mae tîm Hawdd ei Ddeall Cymru yn creu dogfennau Hawdd eu Darllen hygyrch i bobl ag anabledd dysgu. Maent yn rhan o Anabledd Dysgu Cymru.

Mae ganddynt dros 20 mlynedd o brofiad o gynhyrchu gwybodaeth hygyrch o safon uchel ar gyfer ystod eang o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus, sefydliadau pobl anabl ac elusennau.

www.engagetochange.org.uk

Mae prosiect Engage to Change yn gweithio ar draws Cymru i gefnogi pobl ifanc 16-25 oed sydd ag anawsterau dysgu, anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i gyflawni eu llawn botensial.

www.haipac.org.uk

Mae ganddynt dudalen Facebook hefyd, chwiliwch am ‘Haipac’.

https://www.ldw.org.uk/cy/

Maent yn hysbysu, hyfforddi, arloesi, cynrychioli a herio, fel bod plant, pobl ifanc ac oedolion gydag anableddau dysgu yng Nghymru yn cael eu grymuso i gael mwy o ddewis a rheolaeth dros eu bywydau ac yn gallu byw yn fyw annibynnol.

https://www.mind.org.uk/about-us/mind-cymru

Mae Mind Cymru yn elusen iechyd meddwl.  Maent yn gymuned diatal o bobl yng Nghymru na fydd yn rhoi’r gorau iddi nes i bawb sy’n profi problemau iechyd meddwl gael y gefnogaeth a’r parch maent yn ei haeddu. Ynghyd â’r 20 o sefydliadau Mind lleol yng Nghymru maent wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl yn y wlad hon.

https://www.autism.org.uk/home

Un o brif elusennau’r DU ar gyfer pobl ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd. Ers 1962, maent wedi bod yn darparu cymorth, canllawiau a chyngor, yn ogystal ag ymgyrchu ar gyfer hawliau, gwasanaethau a chyfleoedd gwell er mwyn helpu i greu cymdeithas sy’n gweithio ar gyfer pobl awtistig. Gwasanaeth Gwaith Achos Iechyd Meddwl Cleifion Awtistig.

www.ndcs.org.uk/information-and-support/education-and-learning/deaf-works-everywhere/supporting-deaf-young-people-with-career-choices/

NDCS have created a free toolkit and resources for careers advisors, teachers and teachers of the deaf to help you support deaf young people plan for a bright future.
 
Adnoddau’r ‘Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Atal ac Ymateb i Gam-drin Plant yn Rhywiol’.
 
Mae’r Gwasanaeth Prosesu Synhwyraidd wedi’i ddatblygu i alluogi pawb i gael mynediad at wybodaeth am brosesu synhwyraidd. Yma gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o adnoddau defnyddiol i’w gweld neu eu llwytho i lawr.

https://www.gov.uk/taliad-annibyniaeth-personol-pip

Gall Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) eich cynorthwyo chi gyda rhai o’r costau ychwanegol os oes gennych afiechyd neu anabledd hirdymor.

www.researchautism.net

Mae’r wefan hon ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn awtistiaeth, gan gynnwys pobl gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistiaeth, rhieni a gofalwyr, darparwyr gwasanaeth a’r rhai sy’n llunio polisïau.

Dyma un o’r gwefannau mwyaf, mwyaf cyfredol a’r wefan fwyaf dibynadwy yn wyddonol yn y byd i gael gwybodaeth am awtistiaeth, y materion sy’n wynebu pobl gydag awtistiaeth a’r ymyraethau a ddefnyddir i’w cynorthwyo.

https://www.snapcymru.org

Mae SNAP Cymru yn Elusen Genedlaethol, sy’n unigryw i Gymru a ddechreuodd ym 1986. Y brif nod yw gwella addysg pobl yng Nghymru a chefnogi eu cynhwysiant. Mae gwirfoddolwyr a staff profiadol hyfforddedig yn gweithio gyda theuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys AAA, anabledd a rhwystrau eraill e.e. gwaharddiad, dadrithiad, tlodi, amddifadedd, Saesneg neu Gymraeg fel ail iaith.

https://www.olderpeoplewales.com

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn diogelu ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn ar draws Cymru, gan graffu a dylanwadu ar ystod eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau.

https://wcva.cymru

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yw’r corff aelodaeth genedlaethol ar gyfer mudiadau gwirfoddol a’r trydydd sector yng Nghymru.

www.youngminds.org.uk

Mae Young Minds yn un o brif elusennau’r DU sy’n cefnogi lles ac iechyd meddwl pobl ifanc.