Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Beth yw awtistiaeth?

Croeso i’n tudalen Beth yw Awtistiaeth? a Chynllun Tystysgrif Ymwybyddiaeth am Awtistiaeth. Yn yr adran hon mae cyflwyniad i beth yw awtistiaeth a chyngor ar y pethau y gallwch eu gwneud i ddeall awtistiaeth yn well.

Mae dwy elfen i’r cynllun hwn: gwylio ein ffilm hyfforddi “Beth yw Awtistiaeth?”; a chyrchu’r adnoddau e-ddysgu, lle gallwch chi lawrlwytho’r PowerPoint neu PDF ar waelod y dudalen hon.

Ar gyfer pwy mae’r ffilm hyfforddi “Beth yw Awtistiaeth”?

Dyluniwyd y ffilm i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth.

Mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn gweithio i gadw eu hadnoddau a’u hiaith wedi’u diweddar ac yn gyfredol er mwyn adlewyrchu’r hyn dymuna pobl awtistig i bobl niwro-nodweddiadol ei ddeall am awtistiaeth, ac mae diweddaru’r cynllun hwn yn un enghraifft o hyn.

Am beth mae’r ffilm yn sôn?

Mae’r ffilm yn dilyn tri unigolyn awtistig – Amara Tamblyn, Rhiannon Lloyd-Williams ac Osian Harries – wrth iddynt archwilio beth mae eu hawtistiaeth yn ei olygu iddynt hwy, gan gynnwys: cyfathrebu cymdeithasol, patrymau ac arferion; profiad synhwyraidd; a sut i wella pethau.

Mae’r ffilm hefyd yn cynnwys llais proffesiynol y Seicolegydd ymgynghorol, Dr Elin Walker Jones.

Mae’r cynllun wedi’i anelu at bawb sy’n dymuno cael gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Unwaith byddwch wedi gwylio’r ffilm a darllen yr adnoddau, gofynnir i chi rhoi’ch manylion ar y system. Ar ôl rhoi’ch manylion, gofynnir ichi ateb cyfres o 20 cwestiwn. Os byddwch yn llwyddo i ateb pob un o’r 20 cwestiwn yn gywir, bydd tystysgrif wedi’i phersonoli yn cael ei chreu i chi ei lawrlwytho. Os rhowch chi ateb anghywir, cewch gyfle i roi cynnig arall arni.

Os ydych yn gwneud yr hyfforddiant fel rhan o gwmni, sefydliad neu fenter gan eich gwasanaeth, bydd gofyn i chi hefyd roi’r manylion hynny. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ni fonitro faint sy’n manteisio ar yr hyfforddiant ledled Cymru.

I weld y cynllun, cliciwch ar y ddolen gyswllt  isod:

Holiadur Ymwybyddiaeth Awtistiaeth

I gael mynediad i’r cynllun, cliciwch ar y ddolen ganlynol.

Sefydliadau 'Ymwybodol o Awtistiaeth'

I weld y sefydliadau hynny sydd eisoes wedi cwblhau’r cynllun neu os ydych am gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen gyswllt ganlynol.

Chwilio am lawrlwythiadau?

Cliciwch y botwm isod i weld y lawrlwythiadau sydd ar gael ar y dudalen we hon.

Lawrlwythiadau

Cyflwyniad i Awtistiaeth
Cyflwyniad i Awtistiaeth
Cyflwyniad i Awtistiaeth
Hawdd ei Ddeall
Cyflwyniad i Awtistiaeth
Hawdd ei Ddeall