Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Fideo hyfforddi Staff Dysgu (Cyfieithu Hwngari)

Mae HAS-ELTE ‘Autism in Education Research Group’ (MASZK) wedi cynhyrchu cyfieithiad Hwngari o’n fideo hyfforddi Staff Addysgu Ysgolion Cynradd. Gallwch weld y fersiwn wedi’i chyfieithu o’r fideo isod, a darganfod mwy am waith MASZK trwy glicio ar y ddolen ganlynol: https://maszk.elte.hu/en

Mae’r ffilm hyfforddi hon yn dangos rhai o’r heriau y mae plant awtistig yn eu hwynebu yn ystod diwrnod ysgol arferol. Fe’i cynlluniwyd i ddatblygu ymwybyddiaeth ac ysgogi trafodaeth am y camau y gellir eu cymryd i wella eu profiad a’u lefelau cyrhaeddiad.