Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi oedolyn i ddeall diagnosis hwyr o awtistiaeth yn well

Actions and outcomes

Cafodd D ddiagnosis o awtistiaeth ar ôl ymddeol o yrfa lwyddiannus iawn yn y lluoedd.  Roedd yn gweld ymddeoliad yn arbennig o anodd oherwydd y diffyg trefn a strwythur yn ei fywyd.  Roedd diagnosis o awtistiaeth D yn gwneud iddo deimlo’n ddryslyd ac yn rhwystredig ac nid oedd yn siŵr sut i symud ymlaen o hyn a dysgu byw gyda’i ddiagnosis.  Roedd D hefyd yn dechrau teimlo’n fwy a mwy ynysig, a arweiniodd ato’n teimlo’n isel iawn.

 

Ar ôl cyfarfod mewn CANOLBWYNT gwybodaeth, gwahoddwyd D i fynychu gweithdy ôl-ddiagnostig.  Yn y cyfarfod cyntaf, roedd D yn teimlo’n nerfus iawn ac yn ansicr o’r hyn i’w ddisgwyl. Fodd bynnag, ar ôl clywed y seicolegydd yn siarad a gwrando ar aelodau awtistig o’r grŵp yn rhannu eu meddyliau a’u teimladau am eu bywyd fel pobl awtistig, buan y sylweddolodd D eu bod ganddyn nhw i gyd deimladau, pryderon a meddyliau tebyg. Roedd hyn yn meithrin ymdeimlad o gysylltiad i D.

 

Erbyn yr ail gyfarfod, roedd D yn dechrau cyfrannu mwy ac ymgysylltu ag aelodau eraill o’r grŵp.  Wrth i’r cwrs agosáu at y diwedd, rhannodd D ei feddyliau a’i bryderon gyda’r grŵp a daeth yn llawer mwy agored i sgyrsiau.  Tyfodd ei hyder a daeth yn llefarydd lleisiol dros y grŵp. Trefnodd D hefyd i gyfnewid manylion cyswllt â’r aelodau eraill a chynnig cefnogaeth i aelod arall o’r grŵp a oedd yn amlwg yn cael trafferth â’i emosiynau.

 

Diolchodd D i’r tîm am ei wahodd i’r cwrs. Roedd yn amlwg ei fod yn teimlo’n galonogol o weld faint yr oedd wedi’i gyflawni drwy fynychu.

Feedback

Teimlai D fod y grŵp wedi galluogi iddo fod yn gyfrifol am ei fywyd. Nid oedd yn teimlo’n ynysig mwyach, ar ôl gwrando ar aelodau eraill o’r grŵp a chysylltu â nhw. Unig bryder D oedd nad oedd am i’r grŵp ddod i ben. Teimlai ei fod wedi dysgu a chyflawni cymaint drwy fynychu’r sesiynau. Roedd yn awyddus i gadw mewn cysylltiad â’r aelodau eraill ac roedd eisoes wedi cyfarfod am goffi gyda nhw. Mae D yn awyddus iawn i fynychu’r gweithdai yn y dyfodol. Cwrs Therapi Ymddygiad Dialectig yw’r gweithdy nesaf.

Teimlai D sicrwydd hefyd y gallai gysylltu â’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig pe bai’n teimlo bod angen mwy o gefnogaeth arno, drwy fynychu unrhyw un o’r CANOLBWYNTIAU gwybodaeth yn ei ardal.

Lessons Learned

Y brif wers a ddysgwyd oedd pŵer rhannu o fewn grŵp. Rydym wedi gweld sut y gall hyn gynorthwyo unigolion i fagu hyder i symud ymlaen â’u bywydau a galluogi iddyn nhw wneud y newidiadau y maent am eu gwneud.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories