Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Tîm Lleoedd Diogel, Adran Gofal Cymdeithasol Cyngor Wrecsam

Actions and outcomes

Mae’r tîm ‘Lleoedd Diogel’ yn Wrecsam yn grŵp o unigolion sy’n cynnal asesiadau ar wasanaethau, sefydliadau a chwmnïau ar draws awdurdod Wrecsam, i weld os ydyn nhw’n addas i gynnig ‘lle diogel’ i unigolion diamddiffyn. Un enghraifft o ‘le diogel’ fyddai lle i eistedd i rywun gyda phroblemau symudedd neu’n dioddef o bryder neu straen. Mae lle diogel yn lle tawel i ymlacio os ydi rhywun yn teimlo eu bod wedi’u llorio, ac mae cefnogaeth i gysylltu â gofalwr neu aelod o’r teulu os oes angen.

 

Er mwyn uwchsgilio eu gwybodaeth ac i gynnig mwy o gynwysoldeb pan fyddan nhw’n llenwi’r asesiadau hyn, mae’r tîm wedi penderfynu cwblhau hyfforddiant Ymwybyddiaeth ar Awtistiaeth  a dod yn dîm Ymwybodol o Awtistiaeth gydnabyddedig. Drwy gysylltu â’r Tîm Comisiynu a Chynllunio, cwblhawyd yr hyfforddiant awtistiaeth ar-lein.

 

Yn defnyddio eu gwybodaeth a sgiliau newydd ynghylch awtistiaeth a ddysgwyd o’r hyfforddiant, mae’r tîm wedi datblygu taflen i gynghori busnesau a gwasanaethau ar newidiadau bychain y gallan nhw eu gwneud i sicrhau fod eu hamgylchedd yn un sy’n deall awtistiaeth ar gyfer unigolion awtistig. Mae’r daflen yn codi ymwybyddiaeth am awtistiaeth ac mae’r tîm yn annog busnesau i gwblhau’r hyfforddiant ymwybyddiaeth eu hunain.

 

Mae’r tîm yn bwriadu parhau i gynyddu ymwybyddiaeth ynghylch awtistiaeth ac i annog gwasanaethau a sefydliadau i’w rhoi yn eu lle fel Cefnogwr Awtistiaeth.

Feedback

Dyma sylwadau gan y tîm ynglŷn â’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth ar Awtistiaeth:

• “Dyma hyfforddiant da iawn.
Fedrai weld sut y gellir defnyddio’r wybodaeth yn ein gwaith fel Aseswyr Lleoedd Diogel, i helpu busnesau i ddeall sut i gefnogi pobl awtistig”
• “Dwi’n hoffi’r opsiwn fideo gan ein bod yn gallu siarad am bethau fel grŵp a helpodd i ddechrau trafodaethau a datblygu gwell dealltwriaeth”
• “Dwi wedi mwynhau’r hyfforddiant hwn.
Byddai’n andros o dda i eraill ei wneud, mae’n gwneud i chi ddeall rhai o’r heriau y mae pobl awtistig yn ei wynebu”
• “Mae’n adlewyrchol iawn o fy niwrnod arferol.
Mae gen i awtistiaeth a dwi’n gallu gwneud cysylltiad â’r wybodaeth yn y fideo. Mae gwybod y byddai gennyf ‘le diogel’ i fynd iddo yn fy ngwneud i’n fwy hyderus i fynd i ganol y dref”

Lessons Learned

Mae hyfforddiant wedi bod yn ffordd hynod effeithiol o helpu’r tîm i wella eu hymarfer ac i sicrhau cynwysoldeb. Mae’r hyfforddiant hwn wedi darparu’r tîm â’r wybodaeth a sgiliau i godi ymwybyddiaeth yn eu hawdurdod lleol trwy lunio taflen. Mae’r Tîm Lleoedd Diogel yn mynd i fonitro’r ymateb i’r daflen, gan sicrhau ei fod yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd.

Information

n/a
Local Authority:
Wrecsam
n/a
Categories