Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi gwasanaethau cyffuriau ac alcohol i addasu eu harferion ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth awtistig

Actions and outcomes

Cefais gyfarfod B mewn sesiwn galw heibio ar ôl iddo gael ei gyfeirio atom gan y Ganolfan Waith. Roedd B yn ansicr pa gymorth oedd ei angen arno, ond ar ôl i ni lenwi’r Ffurflen Seren Canlyniadau roeddem ni’n gallu adnabod rhai nodau. Y prif rwystrau oedd B yn eu wynebu oedd problemau yn ymwneud â’i awtistiaeth a phroblemau camddefnyddio sylweddau.  Ni fu ymyrraeth gan y Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol yn y gorffennol  yn llwyddiannus gan fod B yn teimlo nad oedd y gwasanaeth yn ei ddeall. Roedd B yn ei chael hi’n anodd deall y cysyniad o ‘adferiad’ ac yn methu â chyflawni’r strategaethau a argymhellwyd. Fodd bynnag, fe gytunodd B i ail-atgyfeiriad i’r Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol pan gynigodd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i ddarparu cyngor, ymgynghoriad a chefnogaeth ychwanegol i’r gwasanaeth i’w helpu nhw i addasu eu hymarfer.

Rhai o’r ymyraethau a ddefnyddiwyd i gefnogi B:

  1. Cyngor, ac ymgynghori’r Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol i’w cefnogi nhw i addasu eu hymarfer.
  2. Cyfarfodydd bob pythefnos gyda gweithiwr cefnogi o’r Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol.
  3. Cadw dyddiadur i gofnodi cyfanswm yr alcohol y mae’n ei yfed.
  4. Dyma ni’n trafod ac yn adnabod y teimladau sy’n gysylltiedig â bod yn feddw gyda B.
  5. Dyma ni’n edrych ar ffyrdd diogel i leihau cyfanswm yr alcohol y mae B yn ei yfed.
  6. Galwadau ffôn yn wythnosol gyda B i’w gefnogi i weithredu’r strategaethau.
  7. Wedi cyfeirio B at sefydliadau a chyrsiau i’w gadw’n brysur.
  8. Mae B wedi mynychu cwrs ôl-ddiagnostig ar y we i ddysgu mwy am ei awtistiaeth.

 

Mae canlyniadau’r ymyraethau hyn wedi eu mesur trwy’r Seren Canlyniadau. Cydweithio gyda Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol wedi rhoi’r gefnogaeth gorau posib i B. Hyd yma dydi B heb yfed alcohol am 16 wythnos ac yn cymryd rhan weithgar yn y rhaglen adferiad. Mae ei iechyd corfforol, lles a’i hunan-barch wedi gwella.

Feedback

Mae B wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth y mae wedi’i dderbyn gan Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent. Mae’r gefnogaeth wedi gwella ei les ac wedi ei alluogi i gael mynediad i wasanaeth hanfodol eraill.

Lessons Learned

Mae cydweithio gyda gwasanaethau eraill i’w helpu nhw i addasu eu hymarfer yn gallu gwella hygyrchedd i bobl awtistig, all wella eu lles yn sylweddol.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories