Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Gwella sgiliau rheoli amser

Actions and outcomes

Hon oedd yr ail ymyrraeth i M ei chael dros y flwyddyn ddiwethaf. Cafodd ein ymyrraeth gyntaf ei thorri’n fyr oherwydd COVID-19. Ail-gydiwyd yn y gwaith gyda’n gilydd yn yr ail ymyrraeth trwy sefydlu:

 

  • Apwyntiadau dros y rhyngrwyd i gwblhau seren ganlyniad M ac i nodi nodau.
  • Cyfarfodydd dros y rhyngrwyd i drafod y cyfrifoldeb cymdeithasol o ofalu am dŷ, glanhau ac ati.
  • Cyflwyniad i Dungeons and Dragons – ar-lein gydag asiantaeth allanol.
  • Cyflwyniad i Grŵp Cymdeithasol y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig.
  • Cyfarfodydd dros y rhyngrwyd i drafod gorbryder cymdeithasol.
  • Cwrs Rheoli Amser a Lles dros y Rhyngrwyd (Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig).
  • Sesiwn Cerdded a Siarad i drafod y cam nesaf i M a rheoli gorbryder; ystyried atgyfeirio i Autism Spectrum Connections Cymru (ASCC) ac ystyried cefnogaeth i wella cyfathrebu.

 

Roedd y prif gynllun gweithredu o’r seren ganlyniad yn canolbwyntio ar ‘reoli amser a gweithgareddau’.  Er i ni dreulio ychydig o sesiynau yn edrych ar orbryder cymdeithasol a strategaethau i oresgyn hyn – teimlaf y bydd modd i M wella’r maes hwn unwaith y bydd cyfyngiadau Cymru wedi llacio a phan all ddychwelyd at y gweithgareddau y mae’n eu mwynhau, fel gwirfoddoli.

Feedback

Nid yw M wedi cwblhau ffurflen adborth ond dywedodd wrthyf ar lafar bod yr ymyraethau wedi bod yn ddefnyddiol iddo ac mae’n gwybod beth sydd angen iddo ei wneud er mwyn gwella ei sgiliau cyfathrebu. Mae’n falch fy mod wedi ei atgyfeirio i ASCC i gaek cefnogaeth sy’n benodol i awtistiaeth yn y gwaith. Fe gwblhaom y seren ganlyniad gyda’n gilydd.

Lessons Learned

Dysgais nad oedd y cyfnod clo yn cael llawer o effaith ar les cyffredinol yr unigolyn hwn. Roedd yn gallu addasu i wneud llai. Mewn rhai ffyrdd roedd wedi ei alluogi i ailasesu ei sefyllfa a beth yw ei nodau. Ambell waith mae angen ychydig mwy o amser ar bobl a gwneud pethau’n arafach. Roedd y cyfnod clo wedi rhwystro ei ymdrechion i fod yn fwy cymdeithasol a gwella ei sgiliau cyfathrebu, ond nid oedd wedi cael effaith negyddol fawr ar ei les yn gyffredinol.

Rwy’n falch o weld y cynnydd y mae wedi’i wneud – yn enwedig o ran cyfrifoldeb cymdeithasol a sgiliau byw ac ni threuliom lawer o amser yn trafod hynny. Rwy’n hyderus ei fod yn barod am rywfaint o gyflogaeth am dâl, felly rwyf wedi ei atgyfeirio i’r ASCC am gymorth arbenigol.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories