Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi dyn ifanc sy’n ynysig yn gymdeithasol i gymdeithasu â theulu y tu allan i’w dŷ

Actions and outcomes

Daeth KR i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gorllewin Cymru am gefnogaeth yn dilyn diagnosis. Ni fyddai KR yn gadael y tŷ ac felly cafodd ei asesiad diagnostig ei wneud gartref, gan na fyddai’n dod i apwyntiadau.

 

Nod KR oedd mynd am bryd o fwyd teuluol mewn bwyty Ddydd Calan. Dechreuodd y tîm weithio gyda KR fis Hydref gan ddechrau gyda chamau bach e.e. cerdded i’r car a dychwelyd i’r tŷ. Gweithiodd y tîm gyda KR i gwblhau dyddiadur gorbryder ar gyfer bob tro roedd yn gadael y tŷ. Ar yr ymweliad nesaf, fe wnaethant gerdded i ben y dreif, a pharhau i wneud pethau gwahanol gyda phob ymweliad. Fe wnaethant eistedd y tu blaen i’r bwyty roedd KR eisiau mynd iddo Ddydd Calan ac ar yr ymweliad dilynol, fe wnaethant fynd i mewn am goffi ac eistedd ar y bwrdd lle byddai’n eistedd.

 

Fe aeth KR i’w bryd o fwyd teuluol Ddydd Calan ac arhosodd yn y bwyty am awr, cyn dychwelyd adref. Yn ystod y Flwyddyn Newydd, mae wedi rhoi nodau newydd i’w hun, fel colli pwysau a cherdded 5 milltir bob dydd gyda’i fam. Mae KR hefyd yn ymgysylltu â’r prosiect Ymgysylltu i Newid, i edrych ar ddewisiadau cyflogaeth. Ers hynny, mae wedi ymgeisio am swydd yn Folly Farm.

Feedback

Dywedodd KR:

“Diolch i chi i gyd am eich cymorth dros y misoedd diwethaf, hyd yn oed os mai am 20 munud yr wythnos yn unig oedd hyn, mae wir wedi fy helpu i gyrraedd lle gwell. Rydw i wir yn gwerthfawrogi popeth rydych wedi’i wneud i mi ac mi fyddaf yn eich methu.
Cymerwch ofal a diolch eto.”

Lessons Learned

Gellir cyflawni gymaint wrth weithio’n uniongyrchol gydag unigolyn. Roedd ymyriadau byr a chyson yn bwysig i’r gŵr hwn. Roedd defnyddio iaith uniongyrchol gyda dewisiadau cyfyngedig hefyd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Mae cyflawni gymaint mewn cyfnod mor fyr wedi rhoi llawer o foddhad i KR ac mae’n parhau i ddatblygu a gwthio ei ffiniau ei hun bob dydd.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories