Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Sesiynau nofio cyfeillgar i Awtistiaeth gan Halo Leisure

Actions and outcomes

Gyda chefnogaeth gychwynnol Arweinydd Awtistiaeth Pen-y-bont ar Ogwr, fe wnaeth Hamdden Halo Pen-y-bont ar Ogwr nodi yr hoffent gynnig darpariaeth Nofio Awtistiaeth.

 

Mae plant awtistig yn 160 gwaith yn fwy tebygol o foddi na’u cyfoedion niwro-nodweddiadol. Felly, mae hyd yn oed yn fwy pwysig nag erioed bod plant ar y sbectrwm awtistiaeth yn dysgu sut i nofio. Fodd bynnag, gall dysgu i nofio fod yn brofiad llawn straen i nifer o blant awtistig.  Gall addasu i’r amgylchedd nofio, gyda’i olygfeydd, synau, arogleuon a theimladau gwahanol, fod yn ormod. O’r herwydd, mae 91% o rieni/gofalwyr, wedi gadael y gwasanaethau dyfrol prif ffrwd gan nad ydyw’r gwasanaethau yn deall anghenion eu plant.

 

Gyda chymorth Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin, cafodd gwersi penodol Ymchwil Nofio Awtistiaeth eu creu a’u peilota, gan helpu plant i ddysgu i nofio mewn ffordd llawn mwynhad ac sy’n hamddenol, gan osgoi natur fwy swnllyd a gwyllt sesiynau gwersi nofio arferol. Cafodd hyfforddiant, gweithdrefnau, adnoddau a chefnogaeth arbenigol eu rhoi ar waith ar gyfer gwersi nofio sy’n gyfeillgar i unigolion ag awtistiaeth.

Feedback

Yn ystod y sesiwn ddiwethaf, cafodd rhieni/gofalwyr a staff eu cyfweld fel rhan o ffilm a gymerwyd yn ystod y gwersi nofio, y gellir ei gweld yma: https://www.facebook.com/HaloLeisure/videos/612017369636040/

Roedd cynnydd y plant o’r sesiwn gyntaf i’r sesiwn olaf un i’w weld yn amlwg gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, rheini/gofalwyr a’r staff. Fe wnaeth y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig fynd i 3 sesiwn i roi gwybodaeth a chyngor i rieni/gofalwyr os oedd angen.

Lessons Learned

O safbwynt Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Bae’r Gorllewin, roedd y canolbwynt cyngor sefydledig yn ystod y gwersi nofio’n werthfawr, ond efallai nad ydyw’n ofynnol bob tro, gan fod rhieni/gofalwyr yn awyddus i weld eu plant yn nofio ac yn dysgu. Mae gwybodaeth a chyngor a roddir drwy daflenni a dolenni cyswllt at wefan ASDinfo Cymru yn well yn ystod y dosbarthiadau eu hunain.

Byddai cael unigolion eraill i gefnogi’r canolbwyntiau, er enghraifft y grŵp Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth lleol, a’r Arweinydd Awtistiaeth lleol, o fudd.

Information

n/a
Local Authority:
Pen-y-bont ar Ogwr
n/a
Categories