Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Fforwm Caerdydd a’r Fro i oedolion awtistig

Actions and outcomes

Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Caerdydd a’r Fro yn cynnal fforymau 2 awr yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ar ddydd Llun cyntaf y mis. Nod y fforwm yw rhoi cyfle i oedolion awtistig gyfarfod a rhannu profiadau, yn ogystal â dysgu am wasanaethau lleol a derbyn gwybodaeth a fydd o bosibl yn berthnasol iddynt drwy siaradwyr gwadd. Mae rhai enghreifftiau o’r gwesteion sydd wedi dod atom ni i siarad yn cynnwys; Four Winds (elusen iechyd meddwl), MIND, Gwasanaethau Llyfrgell, Innovate (prosiect garddio) Gwasanaeth Lles a Gofal yn y Gymuned, a Chelfyddydau Cwm a Bro.

 

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae niferoedd fforwm Caerdydd wedi bod yn cynyddu ac mae oddeutu 20 o bobl yn mynychu bob un o sesiynau’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig bellach. Yn sgil y cynnydd yn nifer y mynychwyr, mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi adolygu strwythur y fforwm ac wedi penderfynu gwneud yr ail awr yn llai ffurfiol, er mwyn cynyddu’r cyfleoedd i gymdeithasu. Roedd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn obeithiol y byddai hyn gwneud i bobl deimlo’n fwy cyfforddus yn cymdeithasu ac yn rhoi hwb iddynt i sgwrsio mewn grwpiau llai o bobl.

 

Treialwyd y fformat newydd ym mis Mawrth 2020. Yn ystod ail awr y fforwm, rhannwyd yr ystafell i grwpiau llai o bobl. Bu pawb yn cymdeithasu am yr awr gyfan, ac ni wnaeth unrhyw un ddewis gadael. Gydag ychydig o anogaeth gan staff, fe wnaeth pawb yn yr ystafell siarad â’i gilydd.

 

Ers mis Tachwedd 2019, roedd grŵp bach o bobl (3-4) wedi bod yn cyfarfod yn Costa yn dilyn y fforwm (fodd bynnag, roedd pawb wedi derbyn cynnig i fynd gan aelod hyderus o’r grŵp). Yn dilyn fforwm mis Mawrth, rhoddwyd cynnig i bawb eto, a chytunodd 10 o bobl i fynd i Costa, gan gynnwys oedolyn awtistig a oedd wedi bod yn dawel iawn yn y fforwm ac yn gyndyn o siarad heb anogaeth gan staff.

Feedback

Bu rhai o’r staff yn siarad â phobl sydd ar y fforwm, a chafwyd adborth cadarnhaol gan bob un ohonynt am y newid i’r strwythur ac roedd pawb yn gytûn ei fod yn cynnig cyfle gwell i bobl gymdeithasu ac ymlacio.

Lessons Learned

Mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi dysgu bod yn rhaid iddynt addasu i anghenion cleientiaid a niferoedd cynyddol y fforymau. Er fod y cynnydd hwn yn beth cadarnhaol i’r gwasanaeth, mae’n bosibl fod y cynnydd yn achosi pryder i’r rheiny nad ydynt yn teimlo’n ddigon hyderus i siarad o flaen bobl eraill mewn grwpiau mawr. Gall newid y strwythur helpu aelodau i ddatblygu perthnasoedd a chyfeillgarwch gyda’i gilydd.

Bydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn adolygu’r strwythur eto yn dilyn 3 sesiwn ac yn ymateb i’r adborth gan ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Information

n/a
Local Authority:
Caerdydd
n/a
Categories