Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi gwraig awtistig i ailadeiladu ei pherthynas â’i heglwys leol

Actions and outcomes

Mae B yn fenyw 35 oed sy’n byw gyda’i rhieni oedrannus mewn cymuned wledig fechan. Mae B wedi derbyn diagnosis awtistiaeth ond nid oedd wedi derbyn unrhyw gefnogaeth ôl-ddiagnostig. Cafodd B ei hatgyfeirio i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ym mis Gorffennaf 2018 a chwblhaodd Gwrs Ôl-Ddiagnostig.

 

Nid yw B yn gweithio ar hyn o bryd ond roedd yn weithgar iawn yn ei heglwys leol. Roedd B yn ynysig iawn yn gymdeithasol ar ôl i’w pherthynas chwalu gydag aelodau hŷn ac aelodau’r eglwys. Roedd cyfres o ddigwyddiadau a chamddealltwriaeth wedi digwydd nad oedd B yn gallu eu datrys. Roedd B yn teimlo ei bod wedi ei ‘gadael allan’ o’r eglwys a rhoddodd y gorau i fynychu. Roedd hyn wedi gwaethygu symptomau pryder ac iselder presennol a arweiniodd at hwyliau isel iawn. Ym mis Rhagfyr 2018, roedd B wedi e-bostio gweithiwr cefnogi yn y gwasanaeth oedd ganddi gysylltiad blaenorol â nhw, yn mynegi syniadaeth o hunanladdiad a hunan-niwed.

 

Roedd yr ymyrraeth ganlynol wedi’i rhoi ar waith:

  • Presenoldeb ar y cwrs ôl-ddiagnostig blaenorol y soniwyd amdano.
  • Gwaith cefnogaeth 1:1.
  • Presenoldeb SAFE (grŵp perthynas).
  • Magu hyder.
  • Rheoli gorbryder drwy ddefnyddio graddfa pum pwynt ac ymwybyddiaeth ofalgar
  • Cysylltu gydag aelodau hŷn yr eglwys.
  • Datblygu sgiliau bywyd bob dydd e.e. golchi dillad a choginio.

 

Canlyniadau’r ymyrraeth hyn oedd:

  • Mae B nawr yn gallu golchi dillad ei hun ac mae’n dysgu coginio.
  • Mae B yn teimlo’n hapusach yn gyffredinol.
  • Mae B yn datblygu ei sgiliau cymdeithasol drwy fynychu amser coffi yn yr eglwys.
  • Mae B yn gallu rheoli ei hiechyd corfforol ei hun a chysylltu â’i meddyg teulu yn annibynnol.
  • Roedd B wedi ailsefydlu ei pherthynas gyda’r eglwys, yn mynychu taith gyda’r eglwys i Lourdes, gwasanaeth newydd yn yr eglwys, gweini ger yr allor a chanu yn y côr.
  • Mae hyder B wedi cynyddu a ddangosir drwy: ganu unawd yn y côr, ymdopi gyda sefyllfa anodd a theimlo’n gyfforddus yn gwneud hynny.
  • Mae B yn teimlo ei bod yn barod i reoli unrhyw gamddealltwriaeth yn y dyfodol.

Feedback

Lessons Learned

Gydag amser a chefnogaeth, mae hyder a sgiliau cyfathrebu cymdeithasol yn gallu gwella’n sylweddol Mae perthynas yn bwysig o ran teimlad o berthyn, tra bod gwella hyder a sgiliau cyfathrebu cymdeithasol yn gallu helpu i lywio sefyllfaoedd anodd a thensiynau mewn perthynas.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories