Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Defnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol i wella lles unigolyn awtistig

Actions and outcomes

Mae un o Ymarferwyr Awtistiaeth Arbenigol IAS Caerdydd a’r Fro wedi cwblhau eu hyfforddiant CBT y chwarter hwn. Mae Cleient X wedi rhoi caniatâd i rannu crynodeb byr o’i brofiad o ymyriadau CBT:

Mae gan Gleient X hanes hir o iselder difrifol a gorbryder. Cysylltodd gweithwyr proffesiynol a oedd yn gweithio gyda chleient X ag IAS Caerdydd a’r Fro oherwydd bod pryderon am ei risg a’i les. Nid oedd meddyginiaeth ac ymyriadau eraill wedi bod yn llwyddiannus ar gyfer cleient X.

Cymerodd Gleient X ran mewn 20 sesiwn CBT ar gyfer iselder. Roedd pob sesiwn yn cynnwys gwaith yn ystod yr apwyntiad a gwaith i gael ei wneud gartref. Roedd yn ymwneud yn llawn â’r ymyriadau CBT. Defnyddiwyd adnodd gwerthuso ansoddol ar ddiwedd yr ymyrraeth a defnyddiwyd nifer o fesurau deilliannau cyn ac ar ôl yr ymyrraeth ac yn yr apwyntiad dilynol 12 wythnos.

Roedd y mesurau deilliannau yn dangos gostyngiad yn y profiadau o orbryder a gwelliant o ran hwyliau isel. Parhaodd y gwelliant hwn yn ystod y 12 wythnos ar ôl i’r ymyrraeth gael ei gwblhau fel a ddangosir gan y deilliannau yn yr adolygiad 12 wythnos. Mae hyn wedi’i ddangos yn y tabl isod:

Mesur

 

Sgôr i Ddechrau Sgôr Terfynol Apwyntiad Dilynol 12 Wythnos
Iselder Beck 29 Iselder cymedrol 14 Aflonyddwch ysgafn ar hwyliau 20 Iselder ffiniol
PHQ-9 (iselder) 21 Iselder difrifol 14 Iselder cymedrol 12 Iselder cymedrol
Gorbryder Beck 31 Gorbryder cymedrol 17 Gorbryder isel iawn 17 Hwyliau isel iawn
GAD-7 (gorbryder) 15 Gorbryder Difrifol 11 Gorbryder cymedrol 9 Gorbryder ysgafn
Graddfa Addasu Gwaith a Chymdeithasol 24 Amhariad gweithredol difrifol 13 Amhariad gweithredol cymedrol ddifrifol 13 Amhariad gweithredol cymedrol ddifrifol

Feedback

Rhai sylwadau o’r gwerthusiad:

‘Rwy’n gallu byw eto. Nid dim ond bodoli ydw i’

‘Rwyf wedi gweld hen ffrindiau nad oeddwn i wedi’u gweld ers 20+ o flynyddoedd’

‘Mae wedi dangos i mi fy mod i’n gallu gwneud pethau anodd’

Lessons Learned

Information

n/a
Local Authority:
Caerdydd
n/a
Categories