Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi nain i reoli ymddygiad ei wyrion

Actions and outcomes

Roedd P wedi mynychu sgwrs ragarweiniol am y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn swyddfeydd y Cyngor yng Nghoed Pella, Bae Colwyn. Roedd P wedi’i phlesio gan ein gwasanaeth a sut rydym yn cefnogi unigolion gyda diagnosis awtistiaeth, felly penderfynodd fynychu canolbwynt cyngor i gael mwy o wybodaeth.

 

Mae gan P ddau ŵyr awtistig. Mae merch P yn rhiant sengl ac mae’r teulu yn ei chael hi’n anodd fel teulu un rhiant i ymdopi gydag ymddygiad y plant. Mae ganddynt ddealltwriaeth gyfyngedig o awtistiaeth hefyd. Mae P yn cefnogi ei merch gymaint ag y gall gyda’i phlant ac mae ei wyrion yn aros gyda hi yn rheolaidd.

 

Yn ein cyfarfod, roeddem wedi trafod strategaethau ar gyfer ymdopi gydag ymddygiad anodd gyda P.  Roedd strategaethau a drafodwyd yn cynnwys:

  • Defnyddio byrddau stori a stripiau comig i egluro sefyllfaoedd, emosiynau ac ymddygiad yn weledol i’r person ifanc.
  • Defnyddio cardiau cyfathrebu i ddangos teimladau ac emosiynau (yn arbennig eu defnyddioldeb yn yr ysgol).
  • Cael lle tawel pan fydd y person ifanc yn dod adref o’r ysgol cyn rhyngweithio sy’n caniatáu iddynt brosesu’r diwrnod.
  • Defnyddio plygiau clustiau a sbectols haul i gefnogi anawsterau synhwyraidd.
  • Cyflwyno amseryddion ar gyfer gweithgareddau i greu ffiniau y gellir eu dilyn.
  • Defnyddio amserlenni gweledol drwy’r flwyddyn i gynllunio digwyddiadau ymlaen llaw i gynnal strwythur mewn bywyd bob dydd.
  • Defnyddio jar gwobrwyo gweledol i hybu ymddygiad cadarnhaol.

 

Roeddem hefyd yn cyfeirio cefnogaeth i’r teulu fel:

  • Gofyn am asesiad gan y Gweithiwr Cymdeithasol.
  • Gofyn am gefnogaeth gan y gweithwyr teulu lleol ar gyfer Asesu Gofalwr.
  • Cysylltu â’r Cydlynydd ADY yn yr ysgol am gefnogaeth.

Cysylltu â S.N.A.P i gefnogi anghenion addysgol ac addasiadau rhesymol.

Feedback

Trefnodd P ail apwyntiad i rannu diweddariadau ar sut oedd y strategaethau wedi cefnogi ei theulu. Roedd P wedi diolch i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru am fod yno iddi a darparu’r strategaethau a’r gefnogaeth iddi. Roed P a’i merch yn gwerthfawrogi’r cyngor yn fawr ac ‘nid oedd yn gallu diolch digon i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig’.

Yn ystod y gwyliau roedd yn teimlo fod y strategaethau a’r gefnogaeth “wedi achub ei bywyd.” Roedd y gefnogaeth a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y teulu. O ganlyniad i roi’r strategaethau a drafodwyd yn flaenorol ar waith, roedd bywyd bob dydd y teulu yn llawer tawelach. Roedd y teulu hefyd wedi dechrau gwneud cynnydd gyda’r ysgol ac wedi cyflwyno ceisiadau i wasanaethau eraill ar gyfer cefnogaeth.

Rhoddodd P yr adborth hwn:
“Allwn ni ddim mynegi pa mor wych yr ydym yn meddwl mae eich cefnogaeth, cymorth a gwrando wedi bod. Byddem wirioneddol yn gwerthfawrogi unrhyw strategaethau pellach dros y ffôn, drwy’r post neu e-bost”.

Lessons Learned

Mae’n hynod bwysig gwrando ar ein cleientiaid ac i adael i’r cleient wybod eu bod wedi eu clywed drwy ddangos empathi tuag atynt. Mae gwrando yn arf pwerus iawn a gall hyn yn ei dro roi grym i’r cleient wneud newidiadau cadarnhaol.

Cael pecynnau gwybodaeth gyda strategaethau ymdopi ar gyfer rhieni/gofalwyr fynd i ffwrdd gyda nhw fel y gallan nhw ddarllen drwyddynt a rhoi’r adnoddau ar waith yn ddefnyddiol. Mae defnyddio’r canolfannau gwybodaeth galw heibio hefyd yn cynnig cefnogaeth i gleientiaid ac maent yn gwybod bod ein gwasanaeth mewn lleoliadau rheolaidd i gynnig cefnogaeth.

Information

n/a
Local Authority:
Conwy
n/a
Categories