Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Pwysigrwydd hyrwyddo’r pethau positif am fod yn awtistig

Actions and outcomes

Ym mis Mehefin 2019, cyfeiriodd yr unigolyn ei hun at Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Western Bay gan geisio deall ei hun yn well. Roeddent am archwilio a allai awtistiaeth fod yn ffactor yn rhai o’r pethau yr oeddent yn cael trafferth â hwy. Awgrymodd eu cwnselydd y gallai fod angen asesiad awtistiaeth.

Yn dilyn asesiad diagnostig, dywedwyd wrthynt eu bod yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer diagnosis awtistiaeth ym mis Tachwedd 2019.

Maent bellach yn mynychu’r Cwrs Ôl-Ddiagnostig ac yn rhannu’r pethau cadarnhaol o dderbyn eu diagnosis awtistiaeth gyda’r grŵp.

Feedback

Dywedodd yr unigolyn: “Rwyf wedi gweld cael y diagnosis yn gadarnhaol iawn. Y peth mwyaf buddiol fu caniatáu imi feddwl yn fwy cadarnhaol amdanaf fy hun. Ychydig yn annisgwyl, rydw i hefyd wedi dechrau ysgrifennu barddoniaeth. Dechreuais ysgrifennu pan oeddwn yn teimlo fy mod wedi fy llethu, gan fy mod yn cael trafferth cyfleu fy nheimladau, a gwelais fod ysgrifennu yn ffordd dda o weithio trwy fy meddyliau. Roeddwn i eisiau rhannu un a ysgrifennais am awtistiaeth (gweler y gerdd isod). Estynnwch fy niolch i’ch holl gydweithwyr. Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi gallu defnyddio’ch gwasanaeth a chael profiad mor gadarnhaol o rywbeth a oedd yn gam go fawr”.

A Letter to Past Me:

My darling girl
I watch you scratch and fight with the world
I watch you lose the fight and shrink

All you can hear and feel right now are
Loud critical ‘you’re doing it wrong’ voices
But you will learn, with time
To turn their volume down
As you turn yours up up up

And once upon a not yet day
You will have a word for all of this

One day, a kind woman in a pale room
With soft seats and leaflets
Will give you a word

It will fit
Like a key
Like a glove
Like a hand in a hand

Autism

And you will have a set free kind of feeling
And you and I will start to make friends

Lessons Learned

Mae’r ffaith bod gan gwnselydd yr unigolyn yr ymwybyddiaeth a’r hyder i awgrymu bod angen asesiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd addysg awtistiaeth o fewn gwasanaethau lles a’r gymuned ehangach. Bydd Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Western Bay yn parhau i gynnig amgylchedd diogel a chadarnhaol i bobl fyfyrio ar eu profiadau a chynnal ein hymrwymiad i hyrwyddo agweddau cadarnhaol o awtistiaeth.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories