Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi unigolyn awtistig i gael mynediad at ei wasanaeth Argyfwng lleol

Actions and outcomes

Cefnogodd Arweinydd Tîm IAS gleient i fynd i apwyntiad gyda’r tîm Datrys Argyfwng yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Doedd y cleient ddim yn gallu teithio’n annibynnol i dderbyn gwasanaeth y tîm Datrys Argyfwng, doedd ganddo ddim cefnogaeth teulu na dull o deithio, roedd yn argyfwng ac felly roedd arno angen cymorth un-i-un.

 

Yn ystod galwad lles y bore hwnnw roedd y cleient wedi sôn am broblemau iechyd meddwl, meddyliau am gyflawni hunanladdiad, hunan-esgeuluso a chymryd diazepam wrth aelod o staff cymorth cymunedol yr IAS. Roedd y cleient yn gofyn am y Gwasanaeth Datrys Argyfwng er mwyn siarad efo rhywun am ei drallod a’i orbryder difrifol.

 

Cysylltodd y Gweithiwr Cefnogi Cymunedol â’r Arweinydd Tîm i dderbyn cyngor a chymorth. Cysylltodd yr Arweinydd Tîm â’r tîm Datrys Argyfwng a threfnu bod y cleient yn cael ei weld y bore hwnnw. Roedd yr Arweinydd Tîm yn gwybod am y cleient ers y llynedd. Nid oedd unrhyw ddigwyddiad blaenorol o niwed na risg i’r cleient ei hun nac i staff. Cafodd yr holl risgiau o ran niwed i’r cleient, niwed i staff a’r risgiau mewn perthynas â COVID-19 eu mesur a’u hasesu drwy asesiad risg a llwybr risg IAS Cwm Taf fel mater brys. Oherwydd COVID-19 a chanllawiau’r Bwrdd Iechyd, roedd y staff yn gwisgo cyfarpar diogelu personol llawn ac wedi darparu cyfarpar i’r cleient, fel masg wyneb, menig a ffedog. Defnyddiwyd hylif diheintio a weips gwrthfacterol hefyd.

 

Wrth aros i’r Arweinydd Tîm gyrraedd cartref y cleient i gynorthwyo gyda chludiant i’r ysbyty, parhaodd y Gweithiwr Cefnogi Cymunedol anfon negeseuon at y cleient i wneud yn siŵr ei fod yn gwybod beth oedd yn digwydd ac i wirio ei ddiogelwch.

 

Cafodd y cleient ei weld gan y tîm Datrys Argyfwng, gyda’r Arweinydd Tîm hefyd yn bresennol. Yn ystod yr ymgynghoriad asesu dwy awr fe dderbyniodd gyngor, tawelwch meddwl a cherdyn gan y tîm Datrys Argyfwng gyda rhifau ffôn a rhif ffôn y tu allan i oriau petai arno angen cysylltu â nhw eto.

 

Cefnogodd yr Arweinydd Tîm y cleient i ddychwelyd adref, gan gynnig ac ailadrodd y cyngor a rhoi tawelwch meddwl iddo ar y daith.

 

Ers hyn, mae staff yn parhau i gadw mewn cysylltiad â’r cleient drwy gynnal galwadau lles o leiaf unwaith yr wythnos. Mae cyfarfodydd wyneb yn wyneb hefyd wedi’u trefnu, i’w cynnal bob pythefnos, gyda’r cleient, yr Arweinydd Tîm a’i weithiwr cefnogi tenantiaeth. Mae’n rhaid i bawb sy’n bresennol wisgo’r cyfarpar diogelu personol priodol a chadw pellter o ddau fetr.

 

Mae’r cleient erbyn hyn yn cysylltu â Gwasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol dros y ffôn a fydd, gobeithio, yn ailagor ei wasanaeth wyneb yn wyneb ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu llacio. Byddai hyn yn fuddiol i’r cleient gan mai’r prif fater sy’n achosi iddo deimlo mor isel ar hyn o bryd yw unigedd a methu cael cyswllt wyneb yn wyneb â rhywun er mwyn siarad am ei deimladau.

Feedback

Mae’r cleient wedi dweud wrth staff IAS a’i weithiwr cefnogi tenantiaeth ei fod yn ddiolchgar iawn bod staff IAS yn gallu gwrando arno a darparu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd arno angen.

Mae’r cleient hefyd yn falch bod yr Arweinydd Tîm bellach yn darparu apwyntiadau wyneb yn wyneb bob pythefnos, ac mae’n teimlo bod y rhain yn fwy buddiol na galwadau ffôn oherwydd ei fod yn teimlo ei bod hi’n haws siarad a myfyrio ar ei deimladau.

Mae’r cleient yn cydnabod ei fod mewn lle gwell yn feddyliol ers dechrau’r ymyrraeth ac mae’r ffaith ei fod yn gwybod y bydd yn derbyn cyswllt wyneb yn wyneb rheolaidd gyda’r IAS yn rhoi tawelwch meddwl iddo.

Mae’r cleient hefyd yn edrych ymlaen at gael cymorth un-i-un er mwyn ael mynediad i’w gymuned unwaith mae’r cyfyngiadau wedi’u llacio.

Lessons Learned

Cydnabod bod rhai pobl awtistig yn ei chael hi’n anodd iawn i ofyn am gymorth ac i wybod sut, pryd a lle i dderbyn cymorth, yn enwedig os ydyn nhw mewn sefyllfa argyfyngus.

Mae gan y tîm gynlluniau ar waith i bob aelod o staff newydd dderbyn hyfforddiant ‘golau glas’ neu ‘helpu’ cyn gynted ag y mae modd cynnal hyfforddiant. Bydd hyn yn helpu staff i fagu hyder, paratoi a derbyn arweiniad ar y gweithdrefnau i’w dilyn os ydyn nhw’n derbyn galwad o’r fath yn y dyfodol.

I sicrhau bod prosesau asesu risg yn eu lle i gefnogi staff a chleientiaid pan fydd angen.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories