Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Ysgol Crefft Ymladd Tang Soo Do ym Mlaenau’r Cymoedd

Actions and outcomes

Mae AR yn rhedeg ysgol Crefft Ymladd, a gadawodd ei swydd yn ddiweddar er mwyn rhedeg yr ysgol llawn amser. Mae hyn wedi golygu bod gan AR ragor o sesiynau 1:1 ar gael i ddisgyblion, sy’n arbennig o boblogaidd gyda phlant awtistig sy’n tueddu i ffafrio gwersi 1:1 yn hytrach na sesiwn grŵp. Hyd yma, mae pedwar myfyriwr awtistig wedi mynychu ysgol Crefft Ymladd AR, ac mae pob un o’r disgyblion awtistig yn gwneud cynnydd gwych yn y sesiynau a thu hwnt. Mae dau o’r plant awtistig mae AR wedi’u haddysgu am fwy na 6 mis wedi ymuno â’r dosbarth grŵp bellach.

Feedback

Mae rhieni/ gofalwyr wedi gadael yr adolygiadau canlynol:

“Clwb gwych – mae AR mor amyneddgar gyda fy mab, mae’n deall ei awtistiaeth i’r dim. Mae ei weld yn gwenu pan mae yn y sesiynau hyn yn werth y byd!!”

“Mae gan fy mab anghenion ychwanegol ac mae’n cael trafferth gyda lleoliadau dosbarth a dilyn cyfarwyddiadau sy’n cynnwys mwy nag un peth iddo eu gwneud ar yr un pryd. Mae ei sylw yn wael iawn, ac mae’n hawdd iawn tynnu ei sylw. Gwelais fod y clwb hwn yn cynnal sesiynau 1:1 ac mae’r sesiynau hyn wedi bod yn wych. Mae fy mab wedi datblygu llawer iawn ac enillodd ei dag melyn ar ei 3ydd sesiwn, hyd yn oed. Mae AR, sy’n rhedeg y sesiynau hyn, wedi bod yn wych. Mae ganddo lawer iawn o amynedd a dealltwriaeth ac mae wedi helpu fy mab i ddysgu sgil newydd. Rwy’n argymell y dosbarth hwn, a’r sesiwn 1:1 yn fawr.”

Lessons Learned

Mae’r myfyrwyr yn dysgu sut i ddatrys problemau mewn modd rhesymegol a gwella sgiliau trwy wrando a chanolbwyntio ar beth maen nhw’n ei ddysgu. Wrth oresgyn y rhwystrau hyn, maen nhw’n magu hyder a dysgu sut i ymddwyn i oresgyn symbyliadau eraill a allai beri gofid iddynt, fel synau a grwpiau mawr. Mae gen i lawer o fideos o’r myfyrwyr yn dangos sut maen nhw wedi datblygu a gwella o ran eu hagwedd feddyliol a chorfforol at y sesiynau.

Information

n/a
Local Authority:
Blaenau Gwent
n/a
Categories