Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi myfyriwr chweched dosbarth

Actions and outcomes

Cwblhaodd HJ ffurflen atgyfeirio i Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Gogledd Cymru. Ar y pryd, roedd yn mynychu ysgol prif ffrwd yn yr adran chweched dosbarth. Yn anffodus, doedd hyn ddim yn addas i HJ oherwydd bwlio, a phwysau’r cwricwlwm.

Cyfarfu HJ a’i rhieni gyda mi yn Hwb y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig, ac fe fuom yn trafod gyda gweithiwr cyswllt rhanbarthol Gyrfa Cymru y posibilrwydd o symud i Priory College, sydd yn goleg anghenion arbennig.

Canlyniadau

Ar ôl ychydig gyfarfodydd ac adroddiad oedd yn nodi’r cymorth roeddwn wedi ei roi yn ei le, ac adroddiad ysgrifenedig i helpu ei chais i’r Priory, bu canlyniad cais HJ yn llwyddiannus ac roedd i gychwyn ym mis Ionawr 2020. Mae’n anodd iawn cael lle yn y Priory College gan bod yn rhaid i’r ymgeisydd gyflwyno tystiolaeth sylweddol i gael lle, ac yna, Llywodraeth Cymru sydd yn penderfynu gan taw nhw sydd yn ariannu’r coleg. Roedd HJ yn lwcus iawn ac mae’n mwynhau ei hamser yn y Priory.

Feedback

Dywedodd rhiant HJ:

“Diolch am eich holl gymorth a chefnogaeth ac am ein cyfeirio at y trywydd iawn, a diolch am eich holl help dros y flwyddyn.”

Lessons Learned

Drwy gymryd amser, bod yn amyneddgar a helpu gydag adroddiadau ysgrifenedig, gellir cyflawni canlyniadau gwych.

Information

n/a
Local Authority:
Sir y Fflint
n/a
Categories