Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi unigolyn awtistig i wella ei hyder a sgiliau cyfathrebu yn y gweithle

Actions and outcomes

Cafodd C ddiagnosis gan Wasanaeth Integredig Awtistiaeth Gwent yn 2018. Ar y pryd, roedd yn teimlo fod arno angen amser i brosesu ei ddiagnosis ac fe gysylltodd eto gyda’r gwasanaeth yn 2019. Cyfeiriodd C ei hun i gyflawni Cwrs Ôl Ddiagnosis gyda’r gwasanaeth, a gwblhaodd ym mis Hydref 2019.

Yn dilyn y Cwrs Ôl Ddiagnosis, roedd C yn teimlo efallai ei fod angen cymorth ynglŷn â’i hyder, yn enwedig o ystyried ei fod yn cael rhai problemau yn y gwaith nad oedd yn teimlo’n ddigon hyderus i’w herio.

Ym mis Rhagfyr 2019, ymwelais â C er mwyn archwilio’r materion hyn ymhellach. Cynghorais C i wneud nodyn o’i flaenoriaethau oedd angen mynd i’r afael a nhw, ac ystyried be oedd wedi ei ddysgu o’r Cwrs Ôl Ddiagnosis o safbwynt mynd i’r afael â’i anghenion synhwyraidd. Yn y man cyntaf roedd cyflogwr C wedi dweud wrtho y byddai’n gorfod aros yn hir am asesiad llawn o anghenion, ond pan roddodd C ei restr o broblemau a datrysiadau i’r reolwyr, cafodd ei asesu o fewn ychydig ddyddiau.

Canlyniadau

Ers hynny, roedd C wedi cael desg yr oedd modd addasu ei huchder, cadair gyda chefnogaeth i’r cefn, newid i’r golau, cytunwyd y gallai ddefnyddio clustffonau os oedd angen, ac roedd ganddo fynediad at ardal y gallai fynd iddi mewn cyfnodau o straen. Mae hyn i gyd yn golygu fod C rŵan yn edrych ymlaen at fynd i’w waith.

Dywedodd C hefyd, ers bod ar y Cwrs Ôl Ddiagnosis lle gwnaeth ffrindiau, fod ganddo fywyd y tu allan i’w deulu agosaf, sydd wedi rhoi synnwyr o bwrpas iddo, ac sydd wedi gwneud lles iddo.

Yn ogystal â  hyn, dywedodd C fod gwelliant wedi bod yn ei berthynas gyda’i fab (sydd hefyd yn awtistig) gan ei fod yn teimlo ei fod yn “gallu gweld o le mae’n dod”. Mae hyn wedi bod o gymorth i C fynd i’r afael â phroblemau ei fab yn yr ysgol hefyd, ac mae’n teimlo fod yr ysgol yn ei gymryd fwy o ddifri’ rŵan ei fod wedi datgelu ei ddiagnosis ei hun.

Feedback

Lessons Learned

Information

n/a
n/a
n/a
Categories