Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Sesiwn galw heibio Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Gwent mewn Canolfan Waith leol

Actions and outcomes

Cefais gyfarfod A yn un o’n sesiynau galw heibio yng Nghanolfan Waith Pont-Y-Pŵl yng Ngorffennaf 2019. Mynychodd A y Ganolfan Waith gyda’i fam ac roedd yn chwilio am gefnogaeth gyda chyflogaeth. Roedd A wedi cael ei ddisgyblu am ymddygiadau cymdeithasol amhriodol yn y gweithle. O ganlyniad i hyn roedd A mewn perygl o golli ei swydd. Mae A yn awtistig ac wedi derbyn ei ddiagnosis fel plentyn.

 

Gweithiais yn rheolaidd gyda A am gyfnod o chwe mis. Darparwyd yr ymyraethau canlynol:

 

  1. Cwrs SAFE i ddynion. Mae’r cwrs wedi darparu A gydag addysg ar berthnasau iach a diogel.
  1. Cwrs Ôl-Ddiagnostig. Helpodd y cwrs yma i A ddysgu mwy am ei awtistiaeth ac i ennill dealltwriaeth well o sut y mae’n ei effeithio a pham.
  1. Rhaglen Gleifion Addysg Awtistiaeth benodol. Mae’r cwrs hwn wedi helpu A i edrych ar ddatrys problemau mewn ffordd wahanol drwy adnabod nod a’i dorri’n gamau bychain y gellir eu cyflawni. O ganlyniad mae A wedi magu hyder.
  1. Cwrs Lles. Mae wedi helpu A i ystyried ffyrdd y gall wella ei les a darparu rhai strategaethau ymdopi i wneud hynny.
  1. Creu proffil unigolyn ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig. Helpodd A i gyfathrebu ei anghenion i’w gyflogwr. Helpodd ei gyflogwr i ddeall yn well a sut y gallan nhw gefnogi A yn effeithiol.
  1. Cefnogaeth i gael mynediad i addasiadau rhesymol yn y gweithle.
  2. Cefnogaeth ar y ffôn gan weithiwr ar ddyletswydd. Helpodd hyn A i reoli sefyllfaoedd wrth iddyn nhw godi yn y gwaith.
  1. Cefnogaeth 1:1 rheolaidd gyda gweithiwr cefnogi. Helpodd hyn i fonitro cynnydd A.
  1. Cefnogaeth dros y ffôn gan Mam.

 

Mae canlyniadau’r ymyraethau hyn wedi eu mesur trwy’r Seren Canlyniadau. Cafodd yr ymyraethau hyn effaith bositif sylweddol ar les A, fel y gwelir ar ei daflen Seren Canlyniadau amgaeedig.

Feedback

Dywedodd A ein fod yn teimlo’n fwy ymwybodol o’r awtistiaeth ar ôl yr ymyraethau a bod ei les wedi gwella.

Lessons Learned

Yn ogystal â’r cyrsiau a fynychodd, cefnogwyd A a’r cyflogwr i ddatblygu ffyrdd newydd o gyfathrebu er mwyn lleihau camddealltwriaeth. Dyma broses hir a gymerodd llawer o waith modelu. Rydym wedi cyrraedd y pwynt nawr lle mae A yn deall fod rhai pobl yn gwneud sylwadau ‘ ffwrdd a hi’ bob hyn a hyn, a’u bod nhw ddim bob tro yn meddwl yr hyn y maen nhw’n ei ddweud. Mae hynny wedi gwella ei sgiliau cyfathrebu yn y gweithle. Erbyn hyn mae gan A yr hyder i fynd at ei gyflogwr yn lle gadael i bethau ei gorddi a chyrraedd pwynt argyfwng.

Mae hyn yn dangos gyda amser, ymdrech ac amynedd, bod modd mabwysiadu sgiliau cyfathrebu yn y gweithle.

Information

n/a
Local Authority:
Tor-faen
n/a
Categories