Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Grŵp Cefnogi Awtistiaeth Un Bywyd, yn gwasanaethu Blaenau Gwent a thu hwnt

Actions and outcomes

Roedd tad-cu a mam-gu yn gofalu am blentyn awtistig, GF, am fod mam GF â materion meddygol difrifol, sy’n ei hatal rhag gofalu amdano. Roedd tenantiaeth breifat tŷ’r tad-cu a’r fam-gu’n dod i ben gan fod y landlord yn gwerthu ac nid oedd y Gymdeithas Tai leol yn darparu llety yn yr ardal, dim ond gwely a brecwast. Aeth y tad-cu a’r fam-gu â’r mater i’r llys, ond oherwydd eu dealltwriaeth gyfyngedig o weithdrefnau llys ac anawsterau mynegi, aeth un o wirfoddolwyr Awtistiaeth Un Bywyd gyda’r teulu i’r llys a chymryd rôl eiriolwr ar ran y teulu. Canlyniad yr achos oedd ailgartrefu’r teulu mewn llety addas. Fe wnaeth rhagor o wirfoddolwyr Awtistiaeth Un Bywyd eu helpu i symud.

Feedback

Roedd y tad-cu a’r fam-gu’n hapus iawn gyda gwaith Awtistiaeth Un Bywyd.

Lessons Learned

Mae llawer iawn o’n teuluoedd naill ai’n anfodlon neu’n methu cynrychioli eu hunain mewn llys pan nad oes Cymorth Cyfreithiol ar gael, felly mae’r pwyslais fel arfer yn disgyn ar wirfoddolwyr lleol i’w cefnogi fel eiriolwyr. Ymhellach at hynny, efallai bod llysoedd angen addysg yn y dyfodol i ddod yn ymwybodol o awtistiaeth.

Information

n/a
Local Authority:
Blaenau Gwent
n/a
Categories