Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Sut y gall ymyriadau ôl-ddiagnosis rymuso pobl awtistig

Actions and outcomes

Cafodd G ddiagnosis o awtistiaeth ar ddechrau 2020 ond roedd yn ansicr ynglŷn â beth oedd ei ddiagnosis yn ei olygu a sut oedd awtistiaeth yn effeithio arno. Ychydig o anawsterau oedd G yn eu cael ar y pryd ac roedd yn ansicr a oedd y problemau hyn yn gysylltiedig ag awtistiaeth, ynteu ymddygiadau a ddatblygodd tra roedd yn y fyddin.

 

Fel man cychwyn, fe gwblhaom broffil awtistiaeth i helpu G i ddeall pam ei fod yn ymddwyn y ffordd y mae’n ymddwyn ambell waith. Helpodd y proffil ef i esbonio’r ymddygiadau hyn i eraill, ac i gyfathrebu gydag eraill ynglŷn â’r ffordd orau iddyn nhw ei gefnogi.

 

Mynychodd G hefyd ein Cwrs Ôl-ddiagnosis dros y Rhyngrwyd i’w helpu i ddeall ei awtistiaeth ac i’w rymuso trwy roi gwybod iddo nad yw ar ei ben ei hun. Cynigais le i’w bartner ar y Cwrs Ôl-ddiagnosis i Rieni a Gofalwyr hefyd, ond dewisodd beidio â chymryd rhan ynddo.

 

Dywedodd G hefyd ei fod yn cael anhawster gwneud penderfyniadau a rhoi pethau mewn trefn, a oedd yn effeithio ar ei fusnes. Byddai G yn trefnu dau apwyntiad ar yr un pryd ac yn gweithio nes ei fod wedi diffygio. Cyflwynom lyfr cynllunio i’w gynorthwyo â hyn.  Mynychodd G gwrs EPP hefyd i’w helpu â chynllunio a threfnu, meithrin ei hyder i wneud penderfyniadau a gwella ei sgiliau datrys problemau i’w alluogi i osod nodau realistig.  Mynychodd G y cwrs Rheoli Amser a Gwella Lles hefyd ond nid oedd yn teimlo bod y cwrs yn iawn iddo ef, felly gadawodd y cwrs ar ôl pythefnos o’r cwrs pump wythnos.

 

Cefnogais G i wneud cais am Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) hefyd trwy gyflenwi gwybodaeth ategol ac arweiniad a ddatblygwyd o fewn y gwasanaeth i’w helpu i lenwi’r ffurflen gais.

 

Derbyniodd G gefnogaeth 1:1 hefyd gyda sgriptiau i’w gefnogi â sgyrsiau priodol.

 

Darparwyd cefnogaeth 1:1 i bartner G hefyd i’w chynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o’r effaith y mae awtistiaeth yn ei gael ar G a ffyrdd y gall hi ei gefnogi.

 

Canlyniad y gefnogaeth hon yw bod G bellach yn aros am hyfforddiant i wirfoddoli fel tiwtor EPP. Yna bydd yn cefnogi’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig i ddarparu cyrsiau EPP ychwanegol.

Feedback

Esboniodd G bod y cwrs ôl-ddiagnosis wedi bod o gymorth mawr iddo ac wedi’i helpu i ddilysu, a dywedodd bod y cwrs wedi rhoi dealltwriaeth dda iddo o’i awtistiaeth.

Roedd y cwrs EPP wedi helpu i rymuso G, cymaint nes ei fod yn dymuno bod yn hyfforddwr ei hun a darparu’r cwrs i unigolion eraill sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

Lessons Learned

Gall y cwrs ymyrraeth cywir rymuso unigolion awtistig trwy roi gwybodaeth iddynt am eu diagnosis a sut mae’n effeithio arnyn nhw, a gall hyn gael effeithiau positif mawr ar eu hiechyd meddwl, lles a’u perthnasoedd. Gall y cyrsiau hyn ysbrydoli unigolion a rhoi hyder iddyn nhw gymryd rhan mewn darparu cyrsiau hyfforddi i helpu eraill i ddeall eu diagnosis o awtistiaeth.

Information

n/a
Local Authority:
Anhysbys
n/a
Categories