Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Cefnogi gwasanaethau trydydd sector i wella eu darpariaeth cymorth bwyd a maeth i gleientiaid awtistig.

Actions and outcomes

Mae Kevin Jones, Dietegydd y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig (IAS) yn darparu hyfforddiant i wasanaethau’r trydydd sector yn lleol sydd yn gweithio gyda phobl awtistig a gyda diddordeb mewn gwella eu gwybodaeth am fwyd a maeth i gefnogi’r cleientiaid hyn.

 

Cynigwyd 12 lle i nifer o wasanaethau yn y trydydd sector. Roedd heriau gyda rhannu’r wybodaeth ar draws ystod eang o wasanaethau’r trydydd sector a fyddai o bosib wedi cyfrannu at y nifer isel o dderbyniadau yn y lle cyntaf ar gyfer cwrs. Cafodd ei gydnabod fod yr amseriad o bosib wedi cyfrannu at y nifer isel o dderbyniadau hefyd. Felly dyma’r IAS yn newid diwrnod ac amser y cwrs ac mae’r niferoedd bellach wedi cynyddu i 11 o fynychwyr. Mae’r staff sy’n mynychu’r cwrs yn cynnwys Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, Eglwys Glenwood, Technegydd Ffisiotherapi Anableddau Dysgu Caerdydd a’r Fro, Gweithiwr Cymunedol IAS, Barnados a gofalwr maeth. Roedd staff o wasanaeth Sbectrwm Awtistig Cysylltu dros Gymru yn fod i fynychu hefyd.  Cynhelir y cwrs 10 wythnos yn Eglwys Glenwood. Drwy gwblhau’r cwrs bydd y mynychwyr yn ennill Achrediad Lefel 2 gydag Agored Cymru yn defnyddio adnoddau  Nutrition skills for life TM wedi’u haddasu.

 

Nod y cwrs yw rhoi gwybod am ymyraethau un-i-un gyda phobl y mae’r staff yn eu cefnogi. Y gobaith yw bydd staff yn magu hyder wrth wneud gwaith fel sgiliau bywyd, bwyta iach sylfaenol, cynllunio prydau, clustnodi arian ar gyfer siopa bwyd a chwalu unrhyw gamsyniadau am fwyd a maeth.

Gwaith penodol wedi’i gynllunio ar ôl cwblhau’r cwrs yn cynnwys:

  • Mae’r Technegydd Ffisiotherapi sy’n gweithio gyda gwasanaethau Anableddau Dysgu yn mynd i beilota grŵp maetheg a gweithgareddau corfforol.
  • Mae Eglwys Glenwood yn mynd i redeg grŵp coginio yn arbennig ar gyfer pobl ag awtistiaeth.

Maen nhw wedi cael cynnig cefnogaeth gan Ddietegydd IAS sydd yn gallu cynnig ymgynghoriad, adnoddau ac argymhellion. Bydd y IAS yn cyfeirio cleientiaid i’r adnodd newydd hwn.

Feedback

Mae’r adborth gan y staff sy’n mynychu’r cwrs yn gadarnhaol iawn, gyda data gwerthuso ffurfiol ar gael.

Lessons Learned

Mae’n bwysig ystyried pa amser o’r dydd i gynnal cyrsiau o’r fath er mwyn sicrhau fod staff ar gael. Byddwn yn parhau i gymryd hynny i ystyriaeth wrth gynllunio hyfforddiant ar gyfer y dyfodol. Mae ffyrdd o rannu gwybodaeth ar draws y rhwydwaith trydydd sector ehangach ar hyn o bryd yn cael ei adolygu gan Tîm IAS.

Information

n/a
Local Authority:
Caerdydd
n/a
Categories