Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Helpu rhywun â gorbryder cymdeithasol feithrin eu hyder

Actions and outcomes

Derbyniom gais am gefnogaeth gan unigolyn sydd wedi bod yn eu tŷ ac heb siarad gydag unrhyw un ar wahân i’w teulu agosaf ers nifer o flynyddoedd, oherwydd gorbryder cymdeithasol.

 

I ddechrau roeddynt yn ei chael hi’n anodd ymgysylltu, ond aethant ymlaen i adeiladu atebion un gair dros y ffôn. Cafodd yr unigolyn gefnogaeth ôl ddiagnostig 1:1, ac chynyddodd eu hyder ddigon iddynt allu ymuno â’r Cwrs Ôl Ddiagnostig Ar-lein gydag oedolion awtistig eraill.

 

Erbyn y diwedd, roedd yr unigolyn yn teimlo’u bod yn gallu cymryd rhan yn y cwrs. Yna fe wnaethon nhw dderbyn cefnogaeth 1:1 gyda strategaethau cyfathrebu cymdeithasol, ac mae eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu cymdeithasol wedi tyfu bob wythnos. Bellach mae’r unigolyn wedi gallu cyflogi Cynorthwyydd Personol i’w cefnogi yn y gymuned.

Feedback

Dywedodd yr unigolyn: “Chi yw’r unig wasanaeth sydd wedi ceisio fy helpu neu ddangos unrhyw ddiddordeb ynof ers blynyddoedd. Rydych chi gyd wedi bod mor amyneddgar. Roeddwn yn teimlo’n ddiogel ac yn teimlo fel y gallwn siarad yn y Grŵp Ôl Ddiagnostig.”

Lessons Learned

Mae’r achos hwn yn dangos fod yn rhaid cymryd amser ychwanegol i adeiladu perthynas gyda rhai unigolion, er mwyn eu galluogi nhw i ymgysylltu. Gall amser, ymdrech a dealltwriaeth greu canlyniadau sy’n newid bywyd unigolyn.

Information

n/a
n/a
n/a
Categories