Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

#TourettesHurts – Mis Ymwybyddiaeth Tourette 2024

Yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Tourette, mae Tourettes Action yn cynnal ymgyrch o’r enw #TourettesHurts sydd â’r nod o dynnu sylw at yr effaith y gall Tourette’s ei chael ar y rhai sydd â’r cyflwr, a’r rhai o’u cwmpas, a chael gwared ar stigmateiddio Tourette’s trwy addysgu a hysbysebu.

Bydd yr ymgyrch yn dangos i’r cyhoedd sut olwg sydd ar realiti Tourette, gan chwalu rhai o’r mythau sy’n ei amgylchynu.

Poen Corfforol

Diffyg Darpariaeth Feddygol

Allgáu Cymdeithasol

Mae Tourettes Action wedi creu cyfres o bosteri (uchod) i’w defnyddio yn ystod mis ymwybyddiaeth, ac yn eich annog i rannu ac arddangos y rhain mewn lleoliadau amrywiol, er enghraifft::

  • Meddygfa
  • Gweithle
  • Canolfan gymunedol leol
  • Ysgol
  • Coleg
  • Hysbysfwrdd y fferyllfa
  • CAMHS lleol
  • Bwrdd arddangos ysbyty
  • Canolfan Cyngor ar Bopeth

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, cliciwch yma.