Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Digwyddiadau Lansio Canolfan Awtistiaeth Castell-nedd Port Talbot

Mae Hyb Awtistiaeth Castell-nedd Port Talbot yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau i rannu gwybodaeth am y ganolfan newydd a’ch galluogi i helpu i lunio’r cymorth a gynigir.

Os ydych yn 16+ ac yn nodi eich bod yn Awtistig, fe’ch gwahoddir i fynychu’r digwyddiadau canlynol (mae croeso hefyd i deulu a ffrindiau):

📅 Dydd Mercher 6 Medi yn Resolfen Building Blocks

📅 Dydd Sadwrn 16 a dydd Mercher 20 Medi yn Neuadd y Dref Castell-nedd

📅 Dydd Iau 28 Medi yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe

📅 Dydd Mercher 4 Hydref yng Nghanolfan St Pauls yn Aberafan

Dewch draw o 11yb – 3.30yp. Does dim angen archebu lle, mae croeso i chi ddod draw i aros am y diwrnod.

Bob dydd, gallwch ddisgwyl cyfarfod â’r tîm y tu ôl i’r hwb, clywed gan siaradwyr gwadd Awtistiaeth, gweld fideo gan Gethin Jones a chael cyfleoedd i rannu eich stori a’ch syniadau ar yr hyn yr hoffech ei weld o’r hwb.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael, ond dewch â phecyn cinio llawn os ydych yn bwriadu aros am y diwrnod. Bydd stondinau gwybodaeth o wasanaethau cymorth eraill yng Nghastell-nedd Port Talbot hefyd ar gael i bori drwyddynt.

Os oes angen addasiadau arnoch ar gyfer hygyrchedd, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Hyb Awtistiaeth Castell-nedd Port Talbot drwy eu tudalen Facebook sydd i’w gweld yn y ddolen isod:
www.facebook.com/profile.php?id=100087503030541

Neu fel arall, gallwch ffonio 07958 442180.