Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Rydyn ni wedi cyflwyno heddiw: Brwd am Weithio gydag Awtistiaeth & Rhaglen ffôn poced

Brwd am Weithio gydag Awtistiaeth

Siarter fydd yn helpu cyflogwyr i ddeall manteision cyflogi pobl ac arnyn nhw awtistiaeth ac ymroi i amlygu agwedd frwdfrydig tuag at weithio gyda phobl o’r fath.

Llysgennad Cyflogaeth Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd Cymru fydd yn hybu’r cynllun, ond caiff pob cyflogwr lofnodi’r siarter yma:

www.ASDinfoWales.co.uk/8801

Byddwn ni’n rhoi tystysgrif i’r cyflogwr ac yn rhoi ei enw ar gofrestr y rhai sy’n fodlon gweithio gydag awtistiaeth:

www.ASDinfoWales.co.uk/8803

Rhaglen ffôn poced

Mae’r raglen yn cydblethu â’r cynllun sydd ar ein gwefan gan roi technoleg gynorthwyol i ofalu y bydd swyddi’n gweddu i fedrau a’r gwaith sydd orau gan rywun.  At hynny, mae calendr sy’n helpu rhywun a chanddo awtistiaeth i baratoi ar gyfer cyfweliad.  Dyma ragor o wybodaeth am y rhaglen:

www.ASDinfoWales.co.uk/8845

Bydd yr adnoddau newydd yn cyfnerthu ein pecynnau presennol ar gyfer pobl ac arnyn nhw anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd (gan gynnwys rhaglen pennu medrau, rhestr gwirio gofynion swyddi yn ôl y gwaith sydd orau gan rywun a dull llunio CV i ymgeisydd a chanddo anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd) yn ogystal â deunydd dysgu electronig i broffesiynolion sy’n helpu pobl i ddod o hyd i swyddi.

Mae’r adnoddau i gyd ar: www.ASDinfoWales.co.uk/employment