Brwd am Weithio gydag Awtistiaeth
Siarter fydd yn helpu cyflogwyr i ddeall manteision cyflogi pobl ac arnyn nhw awtistiaeth ac ymroi i amlygu agwedd frwdfrydig tuag at weithio gyda phobl o’r fath.
Llysgennad Cyflogaeth Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistaidd Cymru fydd yn hybu’r cynllun, ond caiff pob cyflogwr lofnodi’r siarter yma:
Byddwn ni’n rhoi tystysgrif i’r cyflogwr ac yn rhoi ei enw ar gofrestr y rhai sy’n fodlon gweithio gydag awtistiaeth:
Rhaglen ffôn poced
Mae’r raglen yn cydblethu â’r cynllun sydd ar ein gwefan gan roi technoleg gynorthwyol i ofalu y bydd swyddi’n gweddu i fedrau a’r gwaith sydd orau gan rywun. At hynny, mae calendr sy’n helpu rhywun a chanddo awtistiaeth i baratoi ar gyfer cyfweliad. Dyma ragor o wybodaeth am y rhaglen:
Bydd yr adnoddau newydd yn cyfnerthu ein pecynnau presennol ar gyfer pobl ac arnyn nhw anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd (gan gynnwys rhaglen pennu medrau, rhestr gwirio gofynion swyddi yn ôl y gwaith sydd orau gan rywun a dull llunio CV i ymgeisydd a chanddo anhwylderau'r sbectrwm awtistaidd) yn ogystal â deunydd dysgu electronig i broffesiynolion sy’n helpu pobl i ddod o hyd i swyddi.
Mae’r adnoddau i gyd ar: www.ASDinfoWales.co.uk/employment