Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

DATGANIAD I’R WASG CLlLC – Rôl “ysbrydoledig” rhieni a gofalwyr plant awtistig yn cael ei gydnabod yn ystod Wythnos Gofalwyr

Fel rhan o Wythnos Gofalwyr eleni, mae’r Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cydnabod rôl nodedig rhieni a gofalwyr plant awtistig.

Dywedodd y Cynghorydd David:

“Mae bod yn riant neu’n ofalwr yn rôi ysbrydoledig sydd angen empathi, ymroddiad a charedigrwydd – a dyw hynny’n fwy gwir am neb nac am y rheiny sydd yn gofalu am blentyn awtistig. Rydyn ni’n clywed gan deuluoedd y gall gweld plentyn yn derbyn diagnosis o awtistiaeth fod yn brofiad dryslyd oherwydd prinder dealltwriaeth cyffredinol am awtistiaeth fel cyflwr. Dyna pam mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol wedi datblygu ystod o adnoddau i gefnogi rhieni a gofalwyr o’r pwynt o ddiagnosis eu plentyn, ac wrth iddyn nhw barhau a datblygu trwy eu plentyndod.”

“Rwy’n gobeithio y bydd yr adnoddau yma yn helpu i gynnig cefnogaeth i rieni a gofalwyr ymroddedig, ac i ddangos bod gwybodaeth ar gael sy’n gallu eu helpu i ddeall beth mae’r diagnosis yn ei olygu a chynnig cymorth ymarferol am fywyd o ddydd-i-ddydd.”

Mae’r holl adnoddau gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol ar gael ar www.ASDinfoWales.co.uk/parents-and-carers