Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Canllawiau Masgiau Wyneb: Gwaith Clwm y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol & National Autistic Society

Rheoliadau newydd ar orchuddion wyneb ar gyfer cludiant cyhoeddus yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau rheoliadau newydd sy’n ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb (https://llyw.cymru/y-gofyniad-i-wisgo-gorchudd-wyneb-ar-drafnidiaeth-gyhoeddus-yng-nghymru).

Rydym ni’n cydnabod ei bod hi’n gyfnod heb ei debyg o’r blaen, ac efallai bod angen gweithred o’r fath er mwyn atal lledaeniad pellach o’r Coronafeirws yng Nghymru. Os gall pobl wisgo gorchuddion wyneb heb achosi gofid neu bryder difrifol, dylent wneud hynny.

Serch hynny, i’r rheini sydd ag esgusodion rhesymol i beidio gwisgo gorchudd wyneb, mae’r rheoliadau’n glir eu bod wedi’u heithrio rhag gwisgo un. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi enghreifftiau o’r adegau nad oes rhaid i bobl wisgo gorchudd wyneb, sy’n cynnwys os nad yw rhywun yn gallu rhoi gorchudd wyneb neu wisgo gorchudd wyneb oherwydd nam neu anabledd.

Mae hyn yn golygu na fydd rhai pobl awtistig yn gwisgo gorchudd wyneb. Rydym wedi llunio’r daflen wybodaeth sydd ynghlwm yr hoffem ei rannu â chi a’r staff ar draws eich sefydliad, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’r rheolau yma a rhai o’r rhesymau y tu ôl iddynt.

Yn ogystal â’r daflen wybodaeth a ddarparwyd, mae yna nifer o bethau y gall teithiwr awtistig ei gario gyda nhw i’w helpu i gyfathrebu unrhyw anawsterau sydd ganddynt. Mae’r rhain yn cynnwys cerdyn y gellir ei lawrlwytho gan sefydliad awtistiaeth cydnabyddedig,

cortyn gwddf blodyn haul neu Cynllun y Waled Oren (https://www.asdinfowales.co.uk/cy/orange-wallet).

Gwaith Clwm y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol & National Autistic Society