Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Ysgol yn Sir Ddinbych yn dathlu llwyddiant awtistiaeth

Ysgol Esgob Morgan yn Llanelwy yw’r ysgol gyntaf yn Sir Ddinbych a’r ail yng Ngogledd Cymru i gwblhau hyfforddiant Dysgu Gydag Awtistiaeth drwy’r Cynllun Anhwylderau’r Sbectrwm Awtistig Cymreig Cenedlaethol.

Roedd angen i’r ysgol sicrhau fod yr amgylchedd dysgu yn un lle'r oedd disgyblion gydag awtistiaeth yn teimlo’n gyffyrddus a diogel. Mae pob aelod o staff, disgyblion a ,llywodraethwyr wedi derbyn hyfforddiant ar beth yw awtistiaeth a’r ffordd orau i gwrdd ag anghenion dysgu, cymdeithasol ac emosiynol plant gydag awtistiaeth.

Dywedodd Richard Hatwood, Cydlynydd Anghenion Addysgol Ychwanegol yn Esgob Morgan: "Rydym yn hynod falch a theimlo’r fraint o fod yr ysgol gyntaf yn Sir Ddinbych a’r ail yng Ngogledd Cymru i dderbyn y wobr.  Mae’r wobr yn gydnabyddiaeth o ‘r gwerthoedd y mae’r ysgol a’r cyngor sir yn ei roi ar gynhwysiant ac ar sicrhau ein bod yn gweithio’n ddiwyd i gwrdd ag anghenion ein holl ddisgyblion.

 

https://www.denbighshire.gov.uk/cy/preswyliwr/newyddion/July-2016/Denbighshire-school-celebrates-autism-first.aspx