Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Yr ysgol gynradd gyntaf i gwblhau Rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yng Nghymru

Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Baratoi Redhill, Sir Benfro – yr ysgol gynradd gyntaf yng Nghymru i gwblhau Rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ ar gyfer ysgolion cynradd y brif ffwrdd ac ennill ei thystysgrif.  Cydiodd yr ysgol i gyd yn y rhaglen a chymerodd athrawon, staff cymorth, gweithwyr eraill a phlant ran ynddi.  Ar ôl ei gorffen, lluniodd un o’r disgyblion araith i esbonio ei brofiad o fyw gyda Syndrom Asperger wrth ei gyfoedion:

 

“Mae gyda fi fath o awtistiaeth o’r enw Syndrom Asperger.  Dyma’r hyn mae’n ei olygu i mi:

 

Bydda i’n ymddiddori’n fawr mewn hobi penodol fel y galla i sôn amdano drwy’r amser.  O achos hynny, galla i ddysgu a chofio ffeithiau’n hawdd, gan gynnwys sillafu geiriau!

Galla i deimlo’n anfodlon yn hawdd trwy bethau na fydd y rhan fwyaf o bobl yn sylwi arnyn nhw.  Er enghraifft, bydd clywed graen rhai deunyddiau fel tân ar fy nghroen ac mae gormod o sŵn yn ddychrynllyd i mi.  Rwy’n casáu peiriannau sychu dwylo!  Rwy’n cadw at reolau’n dda iawn er y bydda i’n teimlo’n euog os ydw i’n credu fy mod i wedi torri un,  hyd yn oed rhai mân.  Mae pethau o’r fath yn peri ofn arna i ond bydda i’n cymryd tabledi i’m helpu i ymlacio a chysgu drwy’r nos.

 

Mae gweithgareddau corfforol megis seiclo a nofio yn anodd i mi am na alla i gydlynu coesau a breichiau’n dda.  Rwy’n un sensitif iawn, hawdd ei gynhyrfu, ond gan fy mod yn sensitif, mae gyda fi agwedd dringar iawn at fy chwaer fach.

 

Rwy’n credu bod awtistiaeth wedi rhoi doniau creadigol i mi.  Galla i dynnu lluniau ac ysgrifennu straeon da, ac mae’n rhan o’m mhersonoliaeth.”

Jake, 10 oed

 

Cyflwynwyd Rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ mewn achlysur yng ngŵydd gweinidog gwladol ar 3ydd Mawrth 2016.  Ers hynny, mae wedi’i chynnig i lawer o awdurdodau ledled Cymru.  Mae ar gael i bawb ar y we – dyma ragor o wybodaeth: www.ASDinfoWales.co.uk/primary-school