Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i blentyn ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD) sy’n byw yn Abertawe?

Hoffem leihau'r amser y mae'n ei gymryd i dderbyn diagnosis!
Mae angen eich help arnom!

Bydd hyn yn cynnwys cwblhau holiadur ar-lein. Gallai'r ymatebion rydych chi'n eu rhoi helpu i wella'r gwasanaethau diagnostig yn Abertawe. Bydd yr holl wybodaeth yn ddienw a chaiff ei chadw'n gyfrinachol.

Caiff pob holiadur a gwblheir ei gynnwys mewn raffl i ennill taleb Amazon gwerth £25 (8 cyfranogwr).

Pwy sy'n gallu cymryd rhan?
Rhieni/Gofalwyr i blant ag ASD (plentyn 0 i 18 oed)

Angen gwybodaeth bellach arnoch chi?
Cysylltwch â: Manahil Alfuraydan
E-bost: 842703@abertawe.ac.uk

Diddordeb mewn cymryd rhan?
Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i'r holiadur
https://www.surveymonkey.co.uk/r/SBCTMWH

Diolch yn fawr am eich amser

lawrlwythwch daflen