Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Ydych chi’n Rhiant neu’n Ofalwr rhywun ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistaidd sydd wedi ymwneud â’r heddlu a’r system cyfiawnder troseddol yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf?

Hoffem Wella'r System Cyfiawnder Troseddol!
Mae Angen Eich Help Arnom!

Bydd hyn yn golygu llenwi holiadur ar-lein. Bydd yn cymryd tua 10 munud i'w gwblhau a bydd yr holl wybodaeth yn ddienw ac yn cael ei chadw'n gyfrinachol.

Bydd enwau pawb sy'n cwblhau holiadur yn cael eu cynnwys mewn raffl sy'n cynnig dwy wobr o daleb Amazon gwerth £25.

Oes angen rhagor o wybodaeth?
Cysylltwch â: Julie King
E-bost 405608@swansea.ac.uk

Hoffech chi gymryd rhan?
Cliciwch ar y ddolen isod i fynd i'r holiadur
www.surveymonkey.co.uk/r/RL35ZN7

 

Mae Julie Elaine King yn myfyriwr PhD yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy'n cael ei goruchwylio gan Dr Suzanne Edwards, Yr Athro Jane Williams a Dr Anthony Charles. Mae'r astudiaeth wedi cael ei chymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe i sicrhau diogelwch, hawliau, lles ac urddas pawb sy'n cymryd rhan yn yr astudiaeth hon.