Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Swyddi gwag РSwyddog Ymchwil a Gwella Awtistiaeth Cenedlaethol, T̨m Datblygu Awtistiaeth Cenedlaethol

Mae CLlLC yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a gwybodus i ymuno â'r Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd.  Bydd y swydd yn cynnwys ymchwilio i’r offer; pedagogeg ac adnoddau sy’n cefnogi’r unigolion hynny sy’n gweithio gydag unigolion ag awtistiaeth, a’u datblygiad, a fydd yn cynnwys casglu a monitro data’n effeithiol. Mae sgiliau TG rhagorol a chreadigrwydd wrth ddatblygu adnoddau ysgrifenedig a gweledol i unigolion awtistig, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol, law yn llaw â sgiliau rhyngbersonol da yn allweddol ar gyfer y swydd hon.  Byddai profiad a gwybodaeth o awtistiaeth a chyflyrau niwroddatblygiadol eraill yn fanteisiol.

Caiff y Tîm Datblygu ASA Cenedlaethol ei letya gan CLlLC mewn partneriaeth â Iechyd Cyhoeddus Cymru, a’i brif swyddogaeth yw cefnogi darpariaeth Cynllun Strategol a Chynllun Cyflawni ASA Llywodraeth Cymru ar y cyd â budd-ddeiliaid allweddol. Pwrpas sylfaenol y tîm yw i wella bywydau unigolion awtistig yng Nghymru.

Dyma gontract cyfnod penodol – hyd at 31 Mawrth 2019 i ddechrau, gydag estyniad tebygol o ddwy flynedd o leiaf. Byddai secondiadau yn cael eu croesawu.

Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n gwefan https://www.asdinfowales.co.uk ac/neu am drafodaeth anffurfiol, rhowch alwad i Sara Harvey ar 07880 794322 neu i Wendy Thomas ar 07717 822479.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 2 Ionawr 2019.

https://www.wlga.cymru/jobs