Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Nghastell-nedd Port Talbot Datganiad I’r Wasg

Ysgol gynradd Gymraeg yn derbyn gwobr ymwybyddiaeth o awtistiaeth

Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen yw'r ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghastell-nedd Port Talbot i ennill y 'Wobr Dysgu gydag Awtistiaeth' i ysgolion cynradd.

Bydd yr ysgol yn ymuno ag 11 o ysgolion Saesneg yng Nghastell-nedd Port Talbot sydd eisoes wedi derbyn y wobr. 

Mae'r wobr yn cydnabod y gwaith y mae ysgolion yn ei wneud i hyrwyddo gwell dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA). I ennill y wobr hon, mae'n rhaid i ysgolion ddefnyddio ymagwedd ysgol gyfan at gynyddu ymwybyddiaeth o ASA ymhlith athrawon, staff cefnogi dysgu a disgyblion. Mae hyn yn cynnwys cael mynediad at adnoddau dysgu a chyfleoedd hyfforddiant.

Meddai'r Cynghorydd Peter Rees, Aelod y Cabinet dros Addysg, Sgiliau a Diwylliant,

"Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Ysgol Gymraeg Gwaun Cae Gurwen wedi ennill y wobr hon. Mae'n bwysig bod gan bawb mewn ysgol ddealltwriaeth ac ymwybyddiaeth dda o awtistiaeth.

"Un o'r prif flaenoriaethau a nodir yn ein cynllun corfforaethol yw sicrhau y rhoddir y dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn a pherson ifanc."

Mae Gwasanaeth Ymgynghorol ASA y cyngor wedi hyfforddi 376 o athrawon a chynorthwywyr addysgu drwy raglen dreigl o gefnogaeth i sicrhau y datblygir yr ymagwedd hon fel model cynaliadwy i bob ysgol.

Meddai’r Cynghorydd Huw David (Pen-y-bont ar Ogwr), llefarydd CLlLC ar ran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

“Rwy’n falch iawn o weld ysgolion yn manteisio ar y rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ ddwyieithog am ddim sy’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o awtistiaeth ym mhob ysgol. 

“Roedd rhaid i bob ysgol a gyflawnodd y wobr hon ddangos ymrwymiad llwyr i ddarparu amgylcheddau dysgu sy’n cefnogi anghenion pob disgybl yn llawn. Rwyf wrth fy modd bod Ysgol Gymraeg Gwaencaegurwen wedi ymuno â rhestr gynyddol o ysgolion cynradd ac uwchradd sydd wedi cwblhau’r rhaglen ‘Dysgu gydag Awtistiaeth’ yn llwyddiannus er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a gwella dealltwriaeth o anghenion disgyblion ag awtistiaeth.” 

Mae'r 'Wobr Dysgu gydag Awtistiaeth' i ysgolion cynradd yn rhan o raglen Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth o awtistiaeth ymhlith plant ysgolion cynradd yng Nghymru.  

https://www.npt.gov.uk/1410?pr_id=6147&lang=cy-gb