Mae’r wefan hon (ASDinfoWales gynt) yn cael ei redeg gan ac yn perthyn i’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’n un o’r adnoddau sy’n helpu’r Tîm i gyflawni eu nod i wella bywydau pobl awtistig yng Nghymru.

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a GIG Cymru wedi cyd-ddatblygu’r Cwrs E-ddysgu Ymwybyddiaeth o Ofalwyr.

CWRS E-DDYSGU YMWYBYDDIAETH O OFALWYR

Mae Gofal Cymdeithasol Cymru a GIG Cymru wedi cyd-ddatblygu'r Cwrs E-ddysgu Ymwybyddiaeth o Ofalwyr.

Bydd y cwrs yn helpu cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ofalwyr, drwy archwilio rhai pynciau allweddol, gan gynnwys:

  • pwy sy'n ofalwr;
  • y mathau o gymorth y mae gofalwyr yn ei ddarparu;
  • yr effaith y gall rôl gofalu ei gael;
  • yr hyn sydd ei angen ar ofalwyr
  • hawliau gofalwyr, y gyfraith a lle i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael iddynt.

Gyda dros 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, a 3 mewn 5 o bobl yn gofalu ar ryw adeg yn eu bywyd, gofalwyr sy'n darparu y rhan fwyaf o'r cymorth a roddir i bobl yn ein cymdeithas.

Er bod rhai gofalwyr yn ymwybodol o'r cymorth hwn, ni fydd eraill yn gweld eu hunain fel gofalwyr. Felly, mae adnabod gofalwyr yn gynnar yn hanfodol er mwyn iddynt wybod ble y gallant ddod o hyd i gymorth er mwyn cefnogi eu hiechyd a lles.

Bydd y cwrs yn cymryd tua 45 munud i gwblhau, ac ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, gellir lawr lwytho tystysgrif ar gyfer cofnodion datblygiad personol.

Cwblhewch yr adnodd yma: Learning@Wales